Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Bardd a bugail

‘Yr Ysgwrn’ yn Nhrawsfynydd oedd cartref Hedd Wyn. Ardal a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer llawer o’i gerddi.

Fe’i addysgwyd yn yr Ysgol Elfennol leol ac yn yr Ysgol Sul, ond trwy ei chwilfrydedd ei hun, meithriniodd wybodaeth ddiwylliannol dda a chafwyd sawl cerdd adnabyddus ganddo, megis ‘Gwae Fi Fy Myw’.

Yn 1917, dan Ddeddf Gwasanaeth Milwrol 1916, gorfodwyd Hedd Wyn i ymuno â’r fyddin ac ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu’n ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc, a bu farw ym Mrwydr Pilkem Ridge, ar Orffennaf 31ain, 1917.

Prin chwe wythnos yn ddiweddarach, cyhoeddwyd mai fo oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, a byth ers hynny, caiff yr Eisteddfod ei gofio fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’.

Cafodd Hedd Wyn ei anfarwoli yn ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’ gan R.Williams Parry a hefyd yn y ffilm, ‘Hedd Wyn’ a enwebwyd am wobr Oscar yn 1994.