Reslar, Telynores a Thafarnwraig
Arferai cawres o’r enw Marged Ferch Ifan fod yn dafarnwraig yn Nhafarn y Telyrniau, Drws y Coed. Priododd â llipryn o ŵr, ac mae storïau di-rif am eu perthynas tymhestlog. Roedd hi’n eithriadol o ddawnus, gan wneud enw da iddi hi ei hun fel telynores, reslar, gof a saer!
Bu Marged yn rhwyfo copr ar hyd llynnoedd Padarn a Pheris a galwyd hi’n ‘Frenhines y Llynoedd’.
Mae sôn iddi gael ei chladdu dan yr allor yn Eglwys Nant Peris, sy’n destament i’w henw da. Ceir cyfres o benillion sy’n ei choffau a chawn argraff o’i chymeriad lliwgar ohonyn nhw:
Mae gan Farged fwyn ach Ifan
Glocsen fawr a chlocsen fechan,
Un i gicio’r cŵn o’r gornel
A’r llall i gicio’r gŵr i gythrel.