Mudiad Cymreig

Ym mis Rhagfyr 1966, cyhoeddwyd llythyr o gŵyn gan aelodau cangen Y Parc Sefydliad y Merched yn ‘Y Cymro’, yn dangos anfodlonrwydd yr aelodau bod Sefydliad y Merched yn ymdrin â changhennau Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg, er fod y canghennau’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg fel arall.

Ymwelodd swyddogion y sefydliad â’r Parc ac awgrymu os nad oedd yr aelodau’n fodlon gyda’r trefniant, y dylid cau’r gangen. Nid dyna fwriad yr aelodau yn Y Parc, ond dan yr amgylchiadau, penderfynwyd sefydlu cymdeithas Gymreig a Chymraeg newydd i ferched, gyda’r gangen gyntaf yn agor yn Y Parc.

Dechreuwyd casglu arian ar gyfer sefydlu’r mudiad yn Ffair Glame’r Bala, pan ddaeth Meirion Jones ar eu traws. Pan glywodd yr hanes, aeth ati i hyrwyddo’r mudiad newydd a chyn diwedd mis Mai, roedd cangen arall o Ferched y Wawr wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd.

Cafwyd presenoldeb gan Ferched y Wawr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1967 ac yn deillio o holl fôn braich merched Parc, tyfodd y mudiad yn un cenedlaethol, sy’n parhau’n rhan amlwg o Gymreictod.