Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Gwladgarwr Cymreig

Un o feibion Llanuwchllyn oedd Michael D.Jones, a fu’n gweithio fel gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Cincinnati yn Unol Daleithiau America. Yno y sefydlodd Gymdeithas y Brython, fel corff cefnogol i’r Cymru a allfudodd i U.D.A. ond fe’i ddigalonnwyd fod y Cymry yn addasu i’r diwylliant Americanaidd mor gyflym.

Roedd o am i’r Cymry sefydlu cymdeithasau Cymreig, hunan gynhaliol, ond roedd hynny’n amhosib gydag U.D.A. yn datblygu ar gyfradd mor chwim. Felly, yn 1865, sefydlwyd Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin.

Ni fu Michael D.Jones yn un o’r cannoedd o Gymry â ymfudodd i Batagonia ond ymwelodd â’r wladfa yn 1882. Bu Jones hefyd yn Brifathro Coleg y Bala, a pherodd ei wrthwynebiad llym i’r cais i ail wampio cyfansoddiad y Coleg, gychwyn ‘Brwydr y Ddau Gyfansoddiad’. Diwedd y mater oedd di-swyddo Jones fel Prifathro a mabwysiadu’r cyfansoddiad newydd.

Roedd Michael D.Jones yn Rhyddfrydwr ac yn wladgarwr brwd – yn wir, caiff ei ystyried yn un o sefydlwyr cenedlaetholdeb Cymreig.