Prif gymeriad darlun ‘Salem’

Paentiwyd y darlun enwog, Salem gan Sidney Curnow Vosper yn 1908. Mae’n ymdrech i grynhoi ysbryd sidet, Fictorianaidd yr oedfa ar fore Sul yng Nghapel Cefncymerau ger Llanbedr.

Siân Owen yw prif gymeriad y darlun, ac mae’n debyg ei bod hi’n cyrraedd yn hwyr i’r oedfa, gan fod y cloc yn dangos amser toc cyn 10 o’r gloch y bore.

Awgrymodd rai ei bod hi wedi cyrraedd yn hwyr ar fwriad, er mwyn denu sylw ati hi ei hun, ac mae’r siôl a’r het yr oedd hi’n eu gwisgo, hefyd yn denu cryn sylw.

Mae’n debyg mai benthyg y siôl wnaeth Siân Owen, gan wraig ficer Harlech, a’r fath oferedd yn bechod yn llygaid cylch y capel. Mentrodd rhai i ddweud mai dyna pam y gwelir wyneb y diafol ym mhlygiadau’r siôl:

“Nid dweud yr wyf mai urddas ffôl
Oedd urddas benthyg, crand y siôl”.

Bellach, mae’r llun yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Lever, Port Sunlight.