Prifardd ac ysgolhaig
Magwyd T.H.Parry Williams yn Nhŷ’r Ysgol, Rhyd Ddu, lle’r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Bu ei fagwraeth yn Eryri yn ddylanwad aruthrol ar ei waith fel bardd, mewn cerddi megis ‘Llyn y Gadair’ a ‘Moelni’.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, Rhydychen, Freiburg yn yr Almaen a’r Sorbonne ym Mharis.
Bu T.H.Parry-Williams yn ddarlithydd yn y Gymraeg yn Aberystwyth, ond ni chafodd ei ddyrchafu i swydd yr Athro yn 1919, oherwydd ei ddaliadau fel gwrthwynebwr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erbyn 1920, serch hynny, roedd y Coleg wedi ildio ac yno y bu hyd 1952.
Enillodd T.H.Parry-Williams gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a choron yr Eisteddfod ym Mangor ac yn 1947, derbyniodd gydnabyddiaeth am ei waith cyhoeddus, pan gafodd ei urddo’n farchog.