Tirwedd â chyfoeth o archaeoleg.
Mae gan y Parc Cenedlaethol gyfoeth o weddillion archeolegol, llawer ohonynt yn bwysig ar lefel ryngwladol. O safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO i weddillion Rhufeinig gwych, mae archeoleg Eryri yn un o nodweddion diffiniol y Parc Cenedlaethol.
Archeoleg Cynhanesyddol
Carneddi a Siambrau Claddu
Pentwr neu domen o gerrig wedi ei greu gan bobl yw carnedd. Gall carneddi fod wedi eu gosod mewn siapiau a ffurfiau gwahanol. Byddai carneddi yn cael eu codi yn yr oes cynhanesyddol fel cofebau, mannau claddu neu le seremonïol.
Mae llawer o enghreifftiau o garneddi a mannau claddu cynhanesyddol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol.
Mae Bryn Cader Faner, ger Trawsfynydd, yn enghraifft trawiadol iawn o garnedd gyda’i bileri miniog yn amgylchynu’r pentwr cerrig crwn.
Enghraifft trawiadol arall o siambr gladdu o fewn y Parc Cenedlaethol yw Siambr Gladdu Capel Garmon. Mae nodweddion y siambr hwn yn debyg iawn i nodweddion siambrau a ddarganfuwyd yn ardal y Costwolds, Lloegr. Mae’r ffaith fod Siambr Gladdu Capel Garmon yn rhannu’r nodweddion hyn yn ddipyn o ddirgelwch.
Bryngaerau
Mae deg ar hugain o fryngaerau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac er fod gwaith cloddio wedi ei wneud ar rhai o’r safleoedd, mae dyddio’r safleoedd hanesyddol yma’n parhau i fod yn anodd.
Yn ogystal â hynny, mae dryswch ynglŷn ag union bwrpasau’r caerau hyn. Gall rhai fod wedi ei hadeiladu ar gyfer pwrpasau amddiffynnol a rhai eraill ar gyfer pwrpasau crefyddol neu addurniadol.
Rhwng 1979 a 1985, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri waith cloddio ar Fryn y Castell, bryngaer ger Ffestiniog. Dangosodd y gwaith mai cynhyrchu haearn oedd prif weithgarwch Bryn y Castell. Darganfuwyd wastraff slag, gefeiliau gof, morthwylion cerrig a hyd yn oed breichledau gwydr yn ystod y gwaith cloddio.
Archeoleg Rufeinig
Un o uchafbwyntiau hanesyddol y Parc Cenedlaethol yw Tomen y Mur ger Trawsfynydd. Safle archeolegol â chysylltiad Rufeinig yw Tomen y Mur er fod y Normaniaid wedi gwneud defnydd o’r safle yn ogystal.
Mae’n debyg y bu’r Rhufeiniaid am flynyddoedd maith yn ceisio concro’r rhan yma o Brydain. Roedd llwyth o’r enw’r Ordoficiaid yn byw yn y rhan yma o Gymru a bu’r Rhufeiniad yn eu brwydro am ddeunaw mlynedd cyn iddynt lwyddo yn eu concwest.
Mae olion gwersylloedd martsio wedi cael eu darganfod ar hyd tirwedd Eryri gyda’r rhan helaeth ohonynt o gwmpas safle Tomen y Mur.
Yn ardal y Carneddau, mae modd dilyn lôn Rufeinig fynyddig rhwng copaon Tal y Fan a Drum. Bwlch-y-Ddeufaen yw’r enw a roddir ar yr ardal yma gan fod dwy ‘faen’ neu fonolith carreg wedi eu gosod naill ben o’r lôn i’r llall. Roedd y ffordd Rufeinig yma’n cysylltu Caerhun a Chaernarfon.
Archeoleg Canoloesol
Roedd Cymru yn ystod y canoloesodd wedi ei rannu i deyrnasau gwahanol iawn i’r hyn rydym ni’n ei adnabod fel siroedd y wlad heddiw. Roedd pob teyrnas yn cael ei reoli gan brenin neu dywysog gwahanol. Adeiladodd tywysogion a brenhinoedd y teyrnasau hyn gestyll cerrig ar hyd a lled gogledd-orllewin Cymru. Mae nifer o’r cestyll hyn yn parhau i fod yn weladwy gyda’r rhan helaeth yn parhau i sefyll hyd heddiw.
Ymysg yr enghreifftiau gorau o gestyll brenhinoedd a thywysogion Cymru mae Castell Harlech, Castell Cricieth a Chastell y Bere.
Rhwng 1277 a 1283, concrwyd llawer o’r cestyll hyn gan fyddinoedd Lloegr.
Dyma gyfnod o ryfela chwyrn rhwng rhai o deyrnasau Cymru a Lloegr a arweiniodd at Edward I, brenin Lloegr rhwng 1272–1307, i adeiladu cyfres o gestyll milwrol mewn sawl safle yng ngogledd orllewin Cymru.
Mae’r cestyll canoloesol hyn wedi derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Aneddiadau a chaeau cynhanesyddol helaeth
Yn ystod yr oes Rhufeinig, dechreuodd bobl gymryd mantais o gyfleon amaethyddol Eryri. Roeddynt yn codi tai a chytiau lloches ar hyd y tir yn ogystal â chodi waliau cerrig i greu caeau ar gyfer anifeiliaid.
Mae olion y tai a’r caeau hyn wedi’u gwasgaru’n eang ar draws dyffrynnoedd ac ucheldiroedd Eryri. Yn dyddio dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, maent ymhlith yr enghreifftiau gorau a mwyaf cymhleth o aneddiadau a chaeau cynhanesyddol yn Ewrop.