Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Bryngaerau cynhanesyddol, gweddillion Rhufeinig a chestyll a gydnabyddir yn rhyngwladol

Mae gan y Parc Cenedlaethol gyfoeth o weddillion archeolegol, llawer ohonynt yn bwysig ar lefel ryngwladol. O safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO i weddillion Rhufeinig gwych, mae archeoleg Eryri yn un o nodweddion diffiniol y Parc Cenedlaethol.

Archeoleg Cynhanesyddol

Carneddi a Siambrau Claddu

Pentwr neu domen o gerrig wedi ei greu gan bobl yw carnedd. Gall carneddi fod wedi eu gosod mewn siapiau a ffurfiau gwahanol. Byddai carneddi yn cael eu codi yn yr oes cynhanesyddol fel cofebau, mannau claddu neu le seremonïol.

Mae llawer o enghreifftiau o garneddi a mannau claddu cynhanesyddol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol.

Mae Bryn Cader Faner, ger Trawsfynydd, yn enghraifft trawiadol iawn o garnedd gyda’i bileri miniog yn amgylchynu’r pentwr cerrig crwn.

Enghraifft trawiadol arall o siambr gladdu o fewn y Parc Cenedlaethol yw Siambr Gladdu Capel Garmon. Mae nodweddion y siambr hwn yn debyg iawn i nodweddion siambrau a ddarganfuwyd yn ardal y Costwolds, Lloegr. Mae’r ffaith fod Siambr Gladdu Capel Garmon yn rhannu’r nodweddion hyn yn ddipyn o ddirgelwch.

Bryngaerau

Mae deg ar hugain o fryngaerau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac er fod gwaith cloddio wedi ei wneud ar rhai o’r safleoedd, mae dyddio’r safleoedd hanesyddol yma’n parhau i fod yn anodd.

Yn ogystal â hynny, mae dryswch ynglŷn ag union bwrpasau’r caerau hyn. Gall rhai fod wedi ei hadeiladu ar gyfer pwrpasau amddiffynnol a rhai eraill ar gyfer pwrpasau crefyddol neu addurniadol.

Rhwng 1979 a 1985, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri waith cloddio ar Fryn y Castell, bryngaer ger Ffestiniog. Dangosodd y gwaith mai cynhyrchu haearn oedd prif weithgarwch Bryn y Castell. Darganfuwyd wastraff slag, gefeiliau gof, morthwylion cerrig a hyd yn oed breichledau gwydr yn ystod y gwaith cloddio.

Archeoleg Rufeinig

Un o uchafbwyntiau hanesyddol y Parc Cenedlaethol yw Tomen y Mur ger Trawsfynydd. Safle archeolegol â chysylltiad Rufeinig yw Tomen y Mur er fod y Normaniaid wedi gwneud defnydd o’r safle yn ogystal.

Mae’n debyg y bu’r Rhufeiniaid am flynyddoedd maith yn ceisio concro’r rhan yma o Brydain. Roedd llwyth o’r enw’r Ordoficiaid yn byw yn y rhan yma o Gymru a bu’r Rhufeiniad yn eu brwydro am ddeunaw mlynedd cyn iddynt lwyddo yn eu concwest.

Mae olion gwersylloedd martsio wedi cael eu darganfod ar hyd tirwedd Eryri gyda’r rhan helaeth ohonynt o gwmpas safle Tomen y Mur.

Yn ardal y Carneddau, mae modd dilyn lôn Rufeinig fynyddig rhwng copaon Tal y Fan a Drum. Bwlch-y-Ddeufaen yw’r enw a roddir ar yr ardal yma gan fod dwy ‘faen’ neu fonolith carreg wedi eu gosod naill ben o’r lôn i’r llall. Roedd y ffordd Rufeinig yma’n cysylltu Caerhun a Chaernarfon.

Mae olion archeolegol Eryri yn dangos sut roedd pobol yn byw yn yr ardal mor bell a 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
Uchafbwyntiau archeolegol Eryri

Tirwedd â chyfoeth o archaeoleg.

Bryn Cader Faner
Carnedd trawiadol o’r Oes Efydd sy’n sefyll yn ardal Trawsfynydd.
Tomen y Mur
Safle hanesyddol Rufeinig sy’n dyddio’n ôl i’r Ganrif Gyntaf OC.
Castell Harlech
Un o gestyll milwrol trawiadol Edward I a godwyd rhwng 1282 a 1289.
Castell Dolwyddelan
Castell a adeiladwyd gan Llewelyn Fawr ym mlynyddoedd cynnar y 13eg ganrif.
Bwlch-y-Ddeufaen
Lôn Rufeinig fynyddig oedd yn arwain yr holl ffordd i Gaernarfon neu, fel yr oedd hi’n cael ei hadnabod gan y Rhufeiniaid, Segontiwm.

Archeoleg Canoloesol

Roedd Cymru yn ystod y canoloesodd wedi ei rannu i deyrnasau gwahanol iawn i’r hyn rydym ni’n ei adnabod fel siroedd y wlad heddiw. Roedd pob teyrnas yn cael ei reoli gan brenin neu dywysog gwahanol. Adeiladodd tywysogion a brenhinoedd y teyrnasau hyn gestyll cerrig ar hyd a lled gogledd-orllewin Cymru. Mae nifer o’r cestyll hyn yn parhau i fod yn weladwy gyda’r rhan helaeth yn parhau i sefyll hyd heddiw.

Ymysg yr enghreifftiau gorau o gestyll brenhinoedd a thywysogion Cymru mae Castell Harlech, Castell Cricieth a Chastell y Bere.

Rhwng 1277 a 1283, concrwyd llawer o’r cestyll hyn gan fyddinoedd Lloegr.

Dyma gyfnod o ryfela chwyrn rhwng rhai o deyrnasau Cymru a Lloegr a arweiniodd at Edward I, brenin Lloegr rhwng 1272–1307, i adeiladu cyfres o gestyll milwrol mewn sawl safle yng ngogledd orllewin Cymru.

Mae’r cestyll canoloesol hyn wedi derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Aneddiadau a chaeau cynhanesyddol helaeth

Yn ystod yr oes Rhufeinig, dechreuodd bobl gymryd mantais o gyfleon amaethyddol Eryri. Roeddynt yn codi tai a chytiau lloches ar hyd y tir yn ogystal â chodi waliau cerrig i greu caeau ar gyfer anifeiliaid.

Mae olion y tai a’r caeau hyn wedi’u gwasgaru’n eang ar draws dyffrynnoedd ac ucheldiroedd Eryri. Yn dyddio dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, maent ymhlith yr enghreifftiau gorau a mwyaf cymhleth o aneddiadau a chaeau cynhanesyddol yn Ewrop.