Abaty Sistersaidd sydd â chysylltiad â thywysogion Cymru
Mae olion Abaty Cymer i’w gweld ym mhentref Llanelltyd ar gyrion Dolgellau. Roedd yr abaty yn rhan fawr o gymuned ganoloesol yr ardal ac mae hi’n aml yn cael ei chysylltu â theulu Nannau mewn hanes a llên gwerin.
Sefydlu Abaty Cymer
Yn ôl Brut y Tywysogion, sylfaenwyd Abaty Cymer ym 1198. Abaty Sistersaidd oedd hi, a’r unig fynachlog a’i sefydlwyd ym Meirionnydd. Roedd lleoliadau anghysbell mynachlogydd Sistersaidd yn adlewyrchu’r cyfyngiadau llym oedd ar fywydau mynaich yn yr oesoedd canol wrth ddilyn ei dysgeidiaeth.
Tybiwyd o dan nawddogaeth dau frawd y sylfaenwyd Abaty Cymer sef Gruffudd a Maredydd ap Cynan, ŵyr i Owain Gwynedd. Roedd y berthynas rhwng mynachlogydd Ewrop a theuluoedd rheoli pwysig yn agos.
Bywyd a thranc yr abaty
Disgwylir i abatai fel Cymer fyw yn hunangynhaliol ac roeddynt yn aml yn fusnesau llewyrchus. Gwyddwn fod Cymer yn dal tiroedd gan Wynedd a Phowys i bori gwartheg a byddent yn bridio ceffylau.
Yn dilyn gorchfygiad Edward I, cipiwyd canran fawr o eiddo Llywelyn ap Gruffydd o’r abaty, ac felly anodd yw dweud pa drysorau fu’n ngafael Cymer.
Erbyn cau’r abaty yn 1537, fel rhan o ymgyrch Harri VIII i ddiddymu’r mynachlogydd, barnwyd Cymer fel abaty bach ac amhwysig.
Darganfod trysorau Abaty Cymer
Yn 1898 darganfuwyd caregl, cwpan arian seremonïol, wedi’i chuddio yng Nghwm Mynach. Tybiwyd i’r caregl fod yn eiddo i’r abaty. Mae’r caregl bellach i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ymweld ag Abaty Cymer
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld ag Abaty Cymer ar gael ar wefan Cadw.