Un o berlau hanesyddol cudd Eryri

Mae Castell Dolwyddelan yn un o gyfres o gestyll mynyddig y tybiwyd i Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ei hadeiladu ar draws Eryri. Dyma un o gadarnleoedd Cymreig ardal Conwy gyda golygfeydd trawiadol o’r mynyddoedd o’i chwmpas.

Pwrpas Castell Dolwyddelan

Roedd Llywelyn yn dywysog ar Wynedd rhwng 1195–1240 ac fe godwyd Castell Dolwyddelan yn bwrpasol ar droad y 13eg ganrif ar gyfer gwarchod y bwlch mynydd oedd yn lwybr poblogaidd rhwng Conwy a Chricieth.

Gwarchaeau Castell Dolwyddelan

Ym 1283 roedd Castell Dolwyddelan yn nwylo Dafydd ap Gruffydd, un o wyrion Llywelyn Fawr, pan lwyddodd Edward I i gipio’r castell oddi ar y Cymry. Bu i Edward gomisiynu sawl newid i’r castell gan gynnwys adeiladu tŵr newydd, codi uchder y gorthwr a gosod peiriant gwarchae.

Dolwyddelan heddiw

Dim ond un tŵr a safai’n gyflawn hyd heddiw. Mae adfeilion y tŵr adeiladodd Edward I i’w gweld ynghyd ag olion y caeadle.

Ymweld â Chastell Dolwyddelan

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell Dolwyddelan ar wefan Cadw.

Ymweld â Chastell Dolwyddelan (Cadw)