Rhan o wal amddiffynnol Edward I yn erbyn y Cymry
Syfrdanol yw’r unig air i ddisgrifio’r olygfa a welir o gopa Castell Harlech. Mae posib gweld Yr Wyddfa a llu o fynyddoedd eraill Eryri o furiau’r gaer ganoloesol hon.
Dyma un o nifer o gestyll a adeiladodd Edward I yn ystod ei wrthryfel yn erbyn tywysogion Cymru.
Adeiladu Castell Harlech
Fe gomisiynwyd y pensaer milwrol, Meistr James o St George, i adeiladu’r castell ac mae dyluniad ‘waliau o fewn waliau’ y pensaer yn un o’r rhai symlaf o gestyll Edward yng Nghymru.
Mae’n debygol fod symlrwydd y dyluniad yn deillio o’r ffaith fod y llethrau serth a chreigiog sy’n amgylchynu’r castell yn cynnig amddiffynfa naturiol rhagorol.
Gwarchaeau Castell Harlech
Adeiladwyd y castell rhwng 1282 a 1289 a dros ganrifoedd ei bodolaeth bu’n dyst i sawl ymosodiad gan dywysogion Cymru gan gynnwys gwarchae aflwyddiannus Madog ap Llywelyn rhwng 1294-95 a gwarchae lwyddiannus gan Owain Glyndwr ym 1401. Llwyddodd byddinoedd Edward i gipio’r castell yn ôl flwyddyn yn ddiweddarach.
Roedd y castell yn dyst hefyd i warchae saith mlynedd o hyd yn ystod rhyfeloedd y rhosynnau. Dyma’r gwarchae hiraf yn hanes Prydain. Mae sôn mai yn ystod y gwarchae hyn y cyfansoddwyd yr alaw odidog ‘Ymdaith Gŵyr Harlech’.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
Mae Castell Harlech yn parhau i sefyll uwch dref Harlech. Ym 1986 grwpiwyd y cestyll a adeiladodd Edward yng Nghymru a’i gilydd i greu Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae Harlech un o’r rhai sy’n parhau i swyno hyd heddiw.












Ymweld â Chastell Harlech
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell Harlech ar wefan Cadw.