Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Enghraifft rhagorol o beirianneg canoloesol Cymreig

Mae Castell y Bere yn un o sawl castell brodorol Cymreig ar draws dirwedd Eryri. Dyma gastell sy’n enghraifft rhagorol o ddawn y Cymry i adeiladu ar fryniau creigiog ac anwastad Eryri.

Mae’r castell wedi ei hadeiladu ar frigiad danheddog yn Nyffryn Dysynni—dafliad carreg o Gader Idris ac Afon Cader. Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) oedd yn gyfrifol am ei hadeiladu ym 1221 ac mae’n debyg fod pensaernïaeth y castell yn un i’w gwerthfawrogi. Roedd gan y castell fynedfa soffistigedig oedd yn cynnwys dau borthdy a phontydd codi—nodweddion modern iawn ar gyfer eu hoes ac yn goddiweddyd safonau amddiffynfeydd y Saeson ar y pryd.

Ym 1283, roedd Castell y Bere yn un o sawl castell brodorol Cymreig oedd yn nwylo Dafydd ap Gruffydd, ŵyr Llywelyn Fawr, pan y bu i fyddinoedd Edward I oresgyn nifer o’r cestyll gan gynnwys Castell y Bere.

Castell y Bere heddiw

Mae olion nifer o nodweddion y castell i’w gweld heddiw gan gynnwys dau dŵr sy’n arwyddocâol o steil cestyll Cymreig, storfa ddŵr, tyrrau mewnol y castell a’r porthdy.

Ymweld â Chastell y Bere

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell y Bere ar wefan Cadw.

Ymweld â Chastell y Bere (Cadw)