Safle o arwyddocâd cenedlaethol amhrisiadwy
Tŷ sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif ym Mro Machno, ger pentref Penmachno, yw Tŷ Mawr Wybrnant.
Mae arwyddocâd cenedlaethol y safle hwn yn amhrisiadwy. Dyma’r man lle ganed Yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.
Arwyddocâd gwaith William Morgan
Er mwyn deall arwyddocâd gwaith William Morgan, gallwn edrych ar sefyllfa Cymru fel gwlad yn ystod cyfnod y bu cyhoeddi’r cyfieithiad.
Ym 1536, cyflwynwyd deddf a oedd am uno Cymru a Lloegr yn gyfreithiol ac yn grefyddol. Yr un gyfraith a chrefydd fyddai’n cael eu dilyn yn y ddwy wlad. Nid oedd y ddeddf yn cydnabod yr iaith Gymraeg fel iaith swyddogol a bu’r iaith dan fygythiad difrifol yn ei sgil.
Pan gyhoeddodd William Morgan ei gyfieithiad Cymraeg o’r Beibl ym 1588, fe roddwyd statws a symbolaeth newydd i’r Gymraeg fel iaith ddysg, iaith addoli a iaith swyddogol.
Cyfieithu’r Beibl
Bu William Morgan am ddeng mlynedd yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Fe gyfieithodd y gwaith o’r Hebraeg a’r Groeg.
Bwriad efengylaidd oedd du ôl i waith William Morgan gyda’r gobaith o ganiatáu i bobl gyffredin gael mynediad i ddeunydd crefyddol.
Prin iawn oedd Saesneg y Cymry ar y pryd, heb sôn am ieithoedd ‘crefyddol’ megis Hebraeg neu Groeg.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Tŷ Mawr Wybrnant yn gartref i gyfieithiad gwreiddiol William Morgan ond bu i’r cyfieithiad ei symud i Gastell Y Waun yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi ei adfer i adlewyrchu edrychiad a naws y tŷ yn yr 16eg ganrif.
Ymweld â Tŷ Mawr Wybrnant
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Thŷ Mawr Wybrnant ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.