Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Hanes gwrach fytholegol a’i gwas a wyddai phopeth

Gwrach chwedlonol oedd Ceridwen, ac yn ôl y stori, roedd hi’n wraig i Tegid Foel, sef y cawr a roddodd ei enw ar Lyn Tegid, Y Bala.

Ganwyd mab o’r enw Morfran i Ceridwen a Tegid, ond gan ei fod o mor eithriadol o hyll, roedd pobl yr ardal yn ei alw’n Afagddu.

Pair o ‘Awen a Gwybodau’

Penderfynodd Ceridwen y byddai hi’n cynhyrchu swyn er mwyn ceisio gwneud Morfran yn harddach. Paratodd Bair o ‘Awen a Gwybodau’ iddo. Byddai angen berwi’r pair am flwyddyn a diwrnod. Gwion Bach, gwas fach o Lanfair Caereinion, gafodd y gwaith o droi’r pair, a chadw’r tân i losgi.

Yn ôl un fersiwn o’r chwedl syrthiodd diferion o’r pair ar fys Gwion a chan mor boeth oedd y diferion rhoddodd ei fys yn ei geg. Pan y gwnaeth hynny daeth i wybod popeth.

Ras fytholegol

Cafodd Gwion y fath fraw nes iddo ddianc i ffwrdd, ond doedd ei fraw yn ddim o’i gymharu â chynddaredd Ceridwen.

Trodd Gwion ei hun yn ysgyfarnog er mwyn dianc oddi wrth Ceridwen, ond roedd y wrach yn glyfar, a throdd ei hun yn filiast er mwyn rhedeg yn gynt nag o. Yna trodd Gwion ei hun yn bysgodyn, a neidiodd i’r afon, ond trodd Ceridwen yn ddyfrast a nofiodd ar ei ôl.

Roedd Ceridwen bron â’i ddal, pan drodd Gwion yn aderyn a hedfan i’r awyr, ond roedd Ceridwen wedi troi’n hebog a dod yn agosach. Pan welodd Gwïon ronynnau ŷd, trodd ei hun yn ronyn a neidiodd i’w canol, ond gwelodd Ceridwen ei chyfle, a throdd yn iâr, gan fwyta’r holl ronynnau, a Gwïon yn un ohonynt.

Yn fuan, sylweddolodd Ceridwen ei bod yn feichiog ac mai Gwïon oedd y babi’r tu fewn iddi. Fe’i chynddeiriogwyd hi, ac roedd hi â’i bryd ar ladd y baban, nes iddi ei eni a gweld mor dlws yr oedd o.

Trawsnewid i Taliesin

Yn hytrach na’i ladd, lapiodd Ceridwen y babi mewn croen anifail a’i roi ar y môr, mewn cwrwgl. Elffin ddaeth o hyd iddo ger Cors Fochno yng Ngheredigion, gan enwi’r baban yn Taliesin, oherwydd ei dalcen uchel.

Mae’n debyg mai ar ôl y Taliesin hwn yr enwyd pentref Tre Taliesin, ger Aberystwyth.