Criw o ladron a gwŷr pen-ffordd oedd yn codi ofn ar bobl Dinas Mawddwy
Criw o ladron pen-ffordd a herwyr yn ardal Dinas Mawddwy yn ystod y G16 oedd Gwylliaid Cochion Mawddwy. Yn ôl y sôn, cafwyd yr enw yn ôl eu gwalltiau cochion.
Dihirod cymdeithas oedd wedi cael eu diarddel o’u hardal eu hunain. Roedd y trigolion lleol yn ofni’r Gwylliaid yn fawr iawn.
Roedd gan y Gwylliaid eu trefn a’u defodau eu hunain. Yr unig wybodaeth hanesyddol sicr am y Gwylliaid yw eu bod wedi llofruddio’r Barwn Lewys ab Owen i ddial ei fod wedi dedfrydu nifer i’r crocbren neu eu gyrru o’r ardal.
Achosodd llofruddiaeth y barwn gwymp y Gwylliaid Cochion gan i gyfraith a threfn roi eu holl nerth yn eu herbyn a chrogwyd amryw ohonynt am y llofruddiaeth.
Y Gwylliaid ac enwau lleoedd Mawddwy
Mae cof am y Gwylliaid mewn nifer o enwau lleoedd yr ardal, er enghraifft Llety’r Gwylliaid a Llety’r Lladron ar Fwlch yr Oerddrws.