Boddi dinas chwedlonol
Cymeriad o hanes Cantre’r Gwaelod yw Seithennyn. Roedd Cantre’r Gwaelod yn ddinas chwedlonol a saif ar ddarn o dir rhwng Ynys Dewi ac Ynys Enlli. Mae’r darn o dir yma bellach dan ddŵr ac yn cael ei adnabod fel Bae Ceredigion.
Mae hanes dinas Cantre’r Gwaelod i’w weld mewn cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin.
Seithennyn a gatiau Cantre’r Gwaelod
Yn ôl yr hanes, roedd y ddinas wedi ei amgylchynu â gatiau i’w gwarchod rhag y môr cyfagos. Cyfrifoldeb Seithennyn oedd cau’r gatiau hyn bob nos fel nad oedd y ddinas yn boddi.
Un noson, roedd gwledd fawreddog yn cael ei gynnal yn llys y ddinas ac fe yfodd Seithennyn ormod o fedd.
Yn ei feddwdod, anghofiodd gloi’r gatiau ac fe lifodd y môr i mewn a boddi’r ddinas.
Fersiynau eraill o chwedl Cantre’r Gwaelod
Mae fersiynau eraill o hanes Cantre’r Gwaelod yn honni mai Mererid, merch brenin Cantre’r Gwaelod, achosodd foddi’r dinas. Roedd Mererid, yn ogystal a bod yn dywysoges ar Gantre’r Gwaelod, yn gyfrifol am gadw’r ffynnon.
Yn ôl yr hanes, roedd Mererid yn tyfu’n fwyfwy dig a’i sefyllfa ac fe adawodd y ffynnon i orlifo mewn protest.
Cantre’r Gwaelod heddiw
Maen nhw’n dweud os gwrandewch chi’n ddigon astud ar ddiwrnod tawel yn Aberdyfi, y clywch chi glychau Cantre’r Gwaelod yn canu o dan y dŵr.