Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Rhan annatod ​​o orffennol, presennol a dyfodol Eryri

Mae amaethyddiaeth yr un mor bwysig i dirwedd Eryri â’r cymoedd syfrdanol a’r mynyddoedd aruthrol. Mae’n ffordd o fyw i lawer o bobl yn y Parc Cenedlaethol—wedi’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Heb ei hanes a’i threftadaeth amaethyddol, nid Eryri fyddai’r dirwedd rydym yn ei hadnabod heddiw.

Hanes amaethyddiaeth yn Eryri

Mae pobl wedi ffermio Eryri mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ers oes yr arth a’r blaidd. Gallwn weld hyn drwy astudio gweddillion waliau a ffiniau caeau cynhanesyddol.

Ers dechrau ffermio yn Eryri, mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i symud cerrig a gwella’r tir fel y gall anifeiliaid bori.

Erbyn yr Oesoedd Canol a Modern Cynnar, roedd ffermydd bach yn cadw da byw mewn pentrefannau bychain yma ac acw ar hyd yr ardal. Byddai ffermwyr yn aml yn rhannu’r baich o weithio ar dir mor heriol. Roedd tasgau amaethyddol mawr fel aredig a chynaeafu yn ddigwyddiadau cymunedol ynddynt eu hunain—traddodiad sy’n dal i fyw i ryw raddau hyd heddiw.

Golygai llwyddiant diwydiant llechi Cymru yn y 19eg ganrif nad amaethyddiaeth oedd y cyflogwr mwyaf yn Eryri bellach. Erbyn hynny, roedd tirfeddianwyr cyfoethog yn mynd ati i brynu’r rhan fwyaf o’r tir amaethyddol. Byddent wedyn yn ei osod i ffermwyr tenant.

Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif, wrth i ddiwydiant llechi Cymru ddirywio, penderfynodd llawer o bobl ailafael mewn ffermio. Cafodd gwaith y ffermwr ei drawsnewid gan beiriannau fferm yn ystod y cyfnod hwn. Gallai tractorau a pheiriannau medi wneud gwaith sawl labrwr fferm yn hanner yr amser, ac arweiniodd hyn at ffermio ar raddfa fwy o lawer yn Eryri.

Cipolwg ar amaethyddiaeth

Trosolwg o amaeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae dros 1,000 o ffermydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ffermwyr a'r sefydliadau sy'n rheoli tir Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn tirwedd a bywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol.
Mae pobl wedi ffermio Eryri ers y cyfnod cynhanesyddol.
Nid yw tir Eryri'n addas ar gyfer tyfu cnydau. Mae'r rhan fwyaf o ffermydd yn codi da byw—defaid a gwartheg gan fwyaf.
Sheep graze o Cader Idris
Rhwng yr Hendre a'r Hafod
Golygai amgylchedd heriol Eryri fod yn rhaid i ffermwyr wneud y gorau o'r tir. Roedd y tir pori gorau yn y dyffrynnoedd, ac yno y byddai'r brif fferm. Fe'i gelwid yn 'Hendre'. Yn ystod misoedd yr haf, roedd modd defnyddio'r ucheldir fel tir pori. Byddai ffermwyr yn gyrru eu da byw i'r mynyddoedd ac yn aros yn eu llety haf, a elwir yn 'Hafod'.
Yr Amaethwyr

Ffermio heddiw

Ffermio yw un o’r cyflogwyr pwysicaf yn y Parc Cenedlaethol, gyda dros fil o ffermydd o fewn ei ffiniau. Mae cymunedau ffermio’n gymunedau clos sy’n teimlo’n hynod falch o’u gwreiddiau amaethyddol. I lawer, mae’n fwy o draddodiad teuluol na swydd arferol.

Nid yw tiroedd Eryri yn addas ar gyfer tyfu cnydau, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o ffermydd yn codi da byw—defaid a gwartheg fel arfer.

Mae ffyrdd cynaliadwy o ffermio yn dod yn fwy arferol yn Eryri, er mwyn sicrhau bod tirwedd a bioamrywiaeth unigryw’r Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod.

Balans bregus

Mae ffermio ar dirwedd mor sensitif ag Eryri yn falans bregus. Mae rhai arferion ffermio, megis draenio tir, defnydd dwys o laswelltir a symud gwrychoedd wedi amharu ar fywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol.

Mae achosion y dirywiad yn gymhleth, ac mae ffactorau fel y newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu hefyd. Fodd bynnag, mae ffermwyr, ynghyd â sefydliadau sy’n ymwneud â’r gwaith o reoli tir Eryri, yn gweithio gyda’i gilydd i adfer y balans bregus hwn. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r gwaith a wnaed gan ffermwyr a’r sefydliadau yn cynnwys:

  • adfer gwlyptiroedd, a elwir yn fawndiroedd, i’w cyflwr naturiol i wella bywyd gwyllt ac amddiffyn rhag llifogydd
  • plannu coetiroedd a chadw gwrychoedd i greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt
  • sefydlu mentrau i hyrwyddo gwenyna a phlannu perllannau