Mae awyr dywyll Eryri yn rhan hanfodol o’r Parc Cenedlaethol.
Mae tirwedd helaeth a di-dor Parc Cenedlaethol Eryri yn un o’i rinweddau unigryw. Nid oes fawr ddim llygredd golau yn y tirweddau hyn, sy’n golygu awyr dywyll wirioneddol arbennig.
Beth yw Gwarchodfa Awyr Dywyll?
Mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll yn ardaloedd dynodedig lle nad oes fawr ddim llygredd golau ac mae ansawdd awyr y nos yn rhagorol. Mae’r rhain yn ddynodiadau prin a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn unig.
Awyr Dywyll a Bywyd Gwyllt
Mae awyr wirioneddol dywyll, heb olau artiffisial fel goleuadau stryd, yn hynod bwysig i fywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol.
Ystlumod
Mae ystlumod yn famaliaid nosol. Maent yn hela ac yn bwyta yn ystod y nos ac yn cysgu yn ystod y dydd. Mae golau cryf yn ystod y nos yn drysu rhai rhywogaethau ystlumod sy’n sensitif i olau. Maent yn meddwl bod y nos yn ddydd, ac er mwyn osgoi cael eu hela, nid ydynt yn bwyta.
Tylluanod
Mae tylluanod yn ysglyfaethu llygod a chnofilod sy’n effro yn y tywyllwch. Mae gan dylluanod lygaid anhygoel o soffistigedig sy’n caniatáu iddynt weld a hela ysglyfaeth mewn tywyllwch llethol.
Adar
Mae llawer o adar yn defnyddio’r haul, y lleuad a’r sêr i fynd o le i le. Gall golau artiffisial eu drysu ac amharu ar eu patrymau ymfudo.