Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Wrth i un byd gysgu, mae un arall yn deffro

Mae tirwedd helaeth a di-dor Parc Cenedlaethol Eryri yn un o’i rinweddau unigryw. Nid oes fawr ddim llygredd golau yn y tirweddau hyn, sy’n golygu awyr dywyll wirioneddol arbennig.

Awyr Dywyll Eryri

Mae awyr dywyll Eryri yn rhan hanfodol o’r Parc Cenedlaethol.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri'n un o 18 Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol y byd.
Gall treulio amser o dan awyr dywyll wella ein hiechyd a'n lles.
Mae 60% o blanhigion a bywyd gwyllt yn dibynnu ar dywyllwch i fyw.

Beth yw Gwarchodfa Awyr Dywyll?

Mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll yn ardaloedd dynodedig lle nad oes fawr ddim llygredd golau ac mae ansawdd awyr y nos yn rhagorol. Mae’r rhain yn ddynodiadau prin a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn unig.

Yr hyn a welwch
Ar noson glir yn Eryri, gallwch weld y Llwybr Llaethog, y prif gytserau a sêr gwib.

Awyr Dywyll a Bywyd Gwyllt

Mae awyr wirioneddol dywyll, heb olau artiffisial fel goleuadau stryd, yn hynod bwysig i fywyd gwyllt y Parc Cenedlaethol.

Ystlumod
Mae ystlumod yn famaliaid nosol. Maent yn hela ac yn bwyta yn ystod y nos ac yn cysgu yn ystod y dydd. Mae golau cryf yn ystod y nos yn drysu rhai rhywogaethau ystlumod sy’n sensitif i olau. Maent yn meddwl bod y nos yn ddydd, ac er mwyn osgoi cael eu hela, nid ydynt yn bwyta.

Tylluanod
Mae tylluanod yn ysglyfaethu llygod a chnofilod sy’n effro yn y tywyllwch. Mae gan dylluanod lygaid anhygoel o soffistigedig sy’n caniatáu iddynt weld a hela ysglyfaeth mewn tywyllwch llethol.

Adar
Mae llawer o adar yn defnyddio’r haul, y lleuad a’r sêr i fynd o le i le. Gall golau artiffisial eu drysu ac amharu ar eu patrymau ymfudo.

Gwarchod Awyr Dywyll Eryri

Gall pob un ohonom chwarae rhan mewn gwarchod Awyr Dywyll Eryri.

Defnyddiwch oleuadau pan fo angen yn unig
Sicrhewch fod goleuadau allanol yn cael eu defnyddio pan fo angen yn unig. Gall defnyddio goleuadau sy'n dod ymlaen wrth synhwyro symudiadau fod yn ddefnyddiol.
Ceisiwch anelu goleuadau tuag i lawr
Bydd pwyntio goleuadau y tu allan i lawr tuag at y ddaear yn lleihau'r effaith y maent yn ei chael ar fywyd gwyllt sy'n dibynnu ar awyr dywyll.
Defnyddiwch oleuadau mewn mannau sydd eu hangen yn unig
Ceisiwch osgoi defnyddio goleuadau addurnol, a defnyddiwch oleuadau mewn mannau sydd eu hangen yn unig.