Llynnoedd tawel, pyllau pellennig a rhaeadrau cynddeiriog

Mae gweld arwyneb llyn yn ddrych llonydd neu weld afon yn ei rhuthr wedi llif mawr yn brofiad cyfriniol.

Does dim prinder o ddŵr yn y Parc Cenedlaethol. Mae yma 434 milltir o afonydd a thros 100 o lynnoedd.

Does dim rhyfedd bod Eryri’n enwog am ei llynnoedd lledrithiol a’i hafonydd hardd, â 4,343mm o law yn disgyn ar rannau o’r tirwedd yn flynyddol.

Llyn Tegid
Llyn Tegid, llyn naturiol fwyaf Cymru
Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae’n lyn poblogaidd gyda nofwyr, padl-fyrddwyr, pysgotwyr, canŵyr a hwylfyrddiwyr. Gorwedda’r llyn mewn dyffryn hardd wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd y Berwyn, yr Aran a’r Arenig. Mae’n mesur 3.95 milltir sgwâr, yn 3.5 milltir a hanner o hyd a hyd at hanner milltir o led.
Darganfod Llyn Tegid
Bywyd Gwyllt Llynnoedd ac Afonydd Eryri
Enwau llynoedd Eryri

Mae’n anodd dod ar draws lyn yn Eryri sydd heb arwyddocâd i’w enw, boed yn hanu o fytholeg a llên gwerin yr ardal neu o nodweddion y tirwedd sydd o’i gwmpas.

Mae’n debyg i Lyn Barfog, ger Aberdyfi gael ei enwi ar ôl y brwyn sy’n tyfu ar hyd ei lannau.

Mae straeon yn dweud mai afanc peryglus roddodd ei enw i Lyn yr Afanc ger Betws y Coed.

Credir bod y llyn hwn wedi ei enwi ar ôl bugail a foddodd ynddo wrth iddo olchi defaid ei feistr.

Mae Llyn Bochlwyd, uwch Llyn Ogwen wedi ei enwi ar ôl stori am hudd yn dianc o grafangau heliwr. Fe nofiodd ar draws y llyn gan gadw ei fochau llwyd uwch ben y dŵr er mwyn anadlu.

Mae rhai yn credu mai Tegid Foel, brenin creulon chwedlonol, a roddodd ei enw i Lyn Tegid. Mae sôn fod teyrnas Tegid Foel wedi boddi o dan y dŵr oherwydd ei natur gas.