Mae Eryri wedi ysbrydoli artistiaid o bob math ers cenedlaethau drwy ysgogi cwestiynau, darganfod a meddwl am y gorffennol, y presennol a dyfodol y Parc.
Eleni mae Parc Cenedlaethol Eryri’n dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu ac i nodi’r garreg filltir hon mae artistiaid sy’n gweithio mewn amrywiol gyfryngau wedi eu comisiynu i ddathlu Eryri a’i rhinweddau arbennig yn greadigol ar wefan newydd gyda map rhithiol o’r ardal.
Comisiynwyd bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn i ysgrifennu cerdd ar gyfer y dathliad ac yna ymatebodd artistiaid amrywiol i’r gerdd honno a rhinweddau’r Parc. Yn eu plith paentiad gan Lisa Eurgain Taylor, giât gan Joe Roberts, gosodiad celf amgylcheddol gan Tim Pugh; Cân gan Owain Roberts ac Eve Goodman; Ffilm Ddawns gan Angharad Harrop a Helen Wyn Pari. Bydd yr artist Miriam Jones hefyd yn creu baton i fynd ar daith o Ogledd Eryri i’r De.
Mi fydd y map rhithiol yn gyfle edrych nol ar waith celf hanesyddol wedi ei guradu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mi fydd ysgolion a cholegau’r ardal yn cynnal gweithdai a phrosiectau er mwyn meithrin artistiaid y dyfodol a mi fydd rhain hefyd yn arddangos ar y map, gyda gweithdai rhithiol gan rai o artistiaid y prosiect yn cael eu cyflwyno gan Pontio.
Yn ogystal a hyn mi fydd galwad agored ar gyfer artistiaid a’r cyhoedd i ychwanegu eu gwaith eu hunain ar y map.
Deunyddiau digidol ar gael: cyfweliadau fideo byr gyda phob artist, ffilm ddawns Angharad Harrop a Helen Wyn Pari. Ffilm o ddarlleniad cerdd Ifor ap Glyn. Fideo o gân Owain Roberts ac Eve Goodman. Delweddau o ansawdd uchel o waith Joe Roberts, Lisa Eurgain Taylor a Tim Pugh. Mi fydd lluniau o’r artistiaid yn gweithio ar leoliad hefyd ar gael. Mae fersiynau wedi eu isdeitlo yn Saesneg ar gael o bob ffilm.
Dyddiadau pwysig: | |
1af o Hydref | Lansiad y wefan |
4-8fed o Hydref | Gweithdau creadigol amrywiol ar gyfer ysgolion Eryri gyda Ifor ap Glyn, Angharad Harrop, Helen Wyn Pari, Mared Elliw Hughes a Lisa Eurgain Taylor. |
4ydd o Hydref | Gweithdy celf amgylcheddol gyda Tim Pugh ar gyfer staff a gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. |
11-18fed o Hydref | Taith dathlu 70 Eryri |
8fed o Hydref | Gosod giât Joe Roberts yn Llanberis |
11fed o Hydref | Perfformiad byw 8yb gan ddisgyblion Ysgol Aberconwy wedi eu hyfforddi gan ddawnswraig y prosiect Angharad Harrop ar ddechrau’r daith |
18fed o Hydref | Penblwydd swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri |
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
Cysylltiadau Defnyddiol: | |
Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | Ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru |
Cyfanwaith y dathliadau, Pennaeth Ymgysylltu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | Helen.pye@eryri.llyw.cymru |
Ar gyfer cysylltiadau’r artistiaid: Cyfarwyddwr y prosiect, Shari Llewelyn | sharillew@me.com |
Cwrs prosiect celf Grŵp Llandrillo Menai: Owain Prendergast | Prende1o@gllm.ac.uk |
Ar gyfer rhestrau’r ysgolion sy’n mynychu’r gweithdai: Mared Elliw Hughes, Ymgysylltydd Creadigol, Pontio | m.hughes@bangor.ac.uk |
Ar gyfer trafod celf hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Cymru: Andrew Renton | Andrew.Renton@museumwales.ac.uk |
Ar gyfer trafod celf hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Lona Mason | Lona.mason@llgc.org.uk |