Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yn greigiau geirwon ucheldirol, rhostiroedd tawel diarffordd a cheunentydd llaith gwyrddion yn agor allan i ehangder aberoedd euraidd – mae gan Eryri’r cyfan. Ar Hydref y 18fed, bydd yr ardal arbennig hon yn dathlu 70 mlynedd ers ei dynodi’n Barc Cenedlaethol, ac er mwyn nodi’r achlysur arbennig mae Awdurdod y Parc wedi paratoi rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol.

Daeth y dynodiad yn sgil y Ddeddf Parc Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a oedd yn sicrhau bod ardaloedd penodol o harddwch naturiol a’u diwylliant a’u bywyd gwyllt yn cael eu diogelu ar gyfer y genedl trwy eu hamddiffyn rhag gor-ddatblygiad. Eryri oedd y dynodiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, a’r trydydd trwy’r Deyrnas Unedig.

Fel ninnau, wynebodd ein rhagflaenwyr heriau ar hyd y daith wrth ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg, trafnidiaeth a ffordd o fyw, ond rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod rhinweddau arbennig Eryri yn parhau i ffynnu hyd heddiw, law yn llaw â’r byd newydd, a’i bod yn parhau i gael ei harddel fel un o’r ardaloedd mwyaf rhyfeddol yn y byd. Yn ogystal â’i mynyddoedd geirwon a’i thirweddau dramatig, mae ei diwylliant a’i threftadaeth arbennig, a’r iaith Gymraeg sy’n rhan greiddiol o’i hunaniaeth yn swyno ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Bydd sawl prosiect cyffrous a digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal i ddathlu’r garreg filltir arbennig yma. Comisiynwyd nifer o artistiaid lleol i greu darnau o gelfyddyd sy’n dathlu Eryri, fydd ar gael i’w gwerthfawrogi trwy fap digidol, ac estynnodd ein Gwasanaeth Cadwraeth wahoddiad i Gynghorau Cymuned ein helpu i blannu 5,000 o goed ar draws y Parc, un ar gyfer pob un trigolyn sy’n dathlu pen-blwydd yn 70, a phob un plentyn a enir yn 2021.

Er mwyn cofnodi’r saith degawd, porwyd trwy hen ffotograffau i greu oriel ddigidol o hen luniau . Yn ogystal â defnyddio hen luniau llychlyd o lyfrgell yr Awdurdod, croesawyd lluniau gan y cyhoedd er mwyn cofnodi eu profiadau hwy o fyw, gweithio neu ymweld â’r Parc Cenedlaethol.

Yn arwain at y diwrnod mawr bydd taith arbennig o ogledd y Parc i’r de, gyda staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid yn cwblhau cymalau ar droed, ar ddwy olwyn a thrwy ddŵr! Bydd y daith yn gorffen yn Aberdyfi, lle bydd cyfle i bawb ymgynnull unwaith eto mewn dathliad arbennig, a hynny wedi deunaw mis heriol iawn yn sgil y pandemig Covid-19.

Meddai Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r dathliad eleni yn digwydd ar adeg arwyddocaol yn ein hanes, wrth i ni ddod allan o un o’r cyfnodau anoddaf ers ein dynodiad – i’r cymunedau, ac i ninnau fel Awdurdod. Yn sicr mae pandemig Covid-19 wedi dod â thro ar fyd, ond gyda staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid angerddol ac ymroddgar, rwy’n ffyddiog bydd Eryri yn parhau i fod yr un mor arbennig i genedlaethau’r dyfodol.”

I gloi’r cyfan, yn ystod yr Hydref bydd cyfres deledu arbennig sy’n dilyn hynt a helynt trigolion a staff y Parc Cenedlaethol yn cael ei darlledu ar S4C. Dros y deunaw mis diwethaf rydym ni fel Awdurdod wedi bod yn cydweithio gyda Chwmni Da ar raglen ddogfen pedair pennod sy’n rhoi cipolwg ar bleserau a heriau gofalu am, a byw a gweithio o fewn ffiniau un o Barciau Cenedlaethol mwyaf adnabyddus y byd.

Nodyn i Olygyddion

  1. Dynodwyd Eryri’n Barc Cenedlaethol ar y 18fed o Hydref 1951
  2. Eryri oedd y cyntaf i’w dynodi yng Nghymru, a’r trydydd yn y DU – ar ôl Ardal y Peak ym mis Ebrill 1951, ac Ardal y Llynnoedd ym mis Mai 1951.
  3. Mae Eryri’n ardal 823 milltir sgwâr sy’n ymestyn o ucheldiroedd Conwy i lawr am Aberdyfi. Mae 70% o dir Eryri mewn perchnogaeth breifat, gyda’r mwyafrif ohono yn dir amaethyddol.
  4. Mae’r dyddiadau allweddol ar gyfer Dathliadau’r 70 fel â ganlyn (bydd datganiadau penodol yn cael eu rhyddhau ar adegau priodol)1af o Hydref – Lansiad y Prosiect Celf yn Pontio, Bangor

    11eg -18fed Hydref – Taith Arbennig Dathlu 70

    18fed o Hydref – Dathliad swyddogol yn Aberdyfi

    19eg o Hydref ymlaen – darlledu cyfres Pobl y Parc.

    Tachwedd/Rhagfyr – prosiect plannu coed gyda Chynghorau Cymuned

  5. Mae ffilm fer arbennig ar gyfer dathlu penblwydd y Parc Cenedlaethol ar gael trwy ddilyn y ddolen yma

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru