Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddiolch i’r grwpiau gwirfoddoli gyfranodd nifer sylweddol o oriau dros y tymor ymwelwyr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi bod ynghlwm a tri grwp gwahanol o wirfoddolwyr eleni; Partneriaeth Gwirfoddoli Caru Eryri, Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa ac am y tro cyntaf erioed mi roedd grŵp arall o Wardeiniaid Gwirfoddol hefyd yn bresennol yn ne y Parc Cenedlaethol yn ardal Cader Idris.

Rhaglen wirfoddoli mewn partneriaeth yw cynllun Caru Eryri rhwng Cymdeithas Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored. Sefydlwyd y cynllun i ddechrau yn 2021 er mwyn cynorthwyo adrannau wardeinio yr awdurdodau yn ogystal a chlirio sbwriel a darparu gwybodaeth i ymwelwyr a thasgau eraill.

Casglwyd 437.5 o fagiau o sbwriel gan y grŵp dros y tymor o safleoedd prysur megis Yr Wyddfa ac Ogwen ond ehangwyd i ardaloedd eraill eleni hefyd gan gynnwys Abergwyngregyn a Llyn Tegid. Wrth ychwanegu hyn at gyfanswm y llynedd casglodd y grŵp dros 2 dunnell o sbwriel.

Mi fydd rhaglen Caru Eryri eleni yn diweddu yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar y 28ain o Hydref mewn noson arbennig ble fydd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Emyr Williams yn cyflwyno gwobrau unigryw i’r unigolion hynny sydd wedi cyfrannu fwyaf dros y tymor.

Am y tro cyntaf eleni sefydlwyd grŵp o Wardeiniaid Gwirfoddol yn ne y Parc Cenedlaethol mewn ymateb i’r cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn ardal Cader Idris yn ystod y tymor brig. Roedd y cynllun yn lwyddiant mawr wrth i wirfoddolwyr gynnig croeso i ymwelwyr ar lwybrau’r mynydd gan gynnig gwybodaeth a chyngor cyfeillgar tra hefyd yn cynorthwyo gyda casglu sbwriel ac adrodd am unrhyw faterion i Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol.

Dychwelodd Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa eto eleni yn llawn eu brwdfrydedd arferol a mae’r tîm o 36 wedi cyfrannu dros 1400 awr dros y flwyddyn hon yn barod. Wedi eu sefydlu yn eu ffurf presennol nôl yn 2014 mae’r grŵp yn cael ei gydlynnu gan dîm wardeinio Yr Wyddfa ac yn darparu gwasanaeth hanfodol ar fynydd prysuraf Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Cyng. Annwen Hughes:

“Mae’r gwasanaeth mae ein grwpiau gwirfoddoli yn ei ddarparu yma yn Eryri yn amhrisiadwy. O godi sbwriel ar rai o’r llwybrau prysuraf i gynnig gwybodaeth hanfodol i ymwelwyr am ein Parc Cenedlaethol, ni allwn ddiolch digon iddyn nhw am be mae’n nhw’n ei gynnig i’n cymunedau lleol ac ymwelwyr. Mae eu gwybodaeth lleol ac ymroddiad mor werthfawr i ni fel Awdurdod i gynorthwyo hyrwyddo a gofalu am y Parc Cenedlaethol. Hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw am eu gwaith caled dros y tymor yn gwarchod tirweddau bregus Eryri”.

Dywedodd Swyddog Gwirfoddoli a Lles Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae gwirfoddoli yn ffordd anhygoel o gyfarfod ffrindiau newydd a datblygu sgiliau tra’n gweithio yn rhai o ardaloedd hyfrytaf Cymru. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn darparu profiadau gwirfoddoli gwahanol gydol y flwyddyn ble mae posib gweithio ochr yn ochr a gwirfoddolwyr profiadol eraill. Rydym yn hynoed ddiolchgar am yr oriau mae ein grwpiau gwirfoddoli wedi cyfrannu