Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod, etholwyd y Cynghorydd Annwen Hughes fel Cadeirydd.

Mae’r Cynghorydd Hughes yn Gynghorydd Gwynedd dros Harlech a Llanbedr ac wedi bod yn Aelod Awdurdod ers pum mlynedd ac yn is-Gadeirydd am ddwy o’r rheini.

Cafodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cynghorydd Gwynedd dros Waunfawr, hefyd ei ethol fel Is-Gadeirydd.

Croesawyd chwe aelod newydd i’r cyfarfod, ac am y tro cyntaf erioed mae nifer hafal o ddynion a merched ar y pwyllgor.

Y Cynghorwyr newydd yw Louise Hughes, June Jones, Kim Jones a Meryl Roberts o Gyngor Gwynedd a Jo Nuttall a Dilwyn Owain Roberts o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mi fyddant ar yr Awdurdod am 5 mlynedd nes yr etholiadau cyngor lleol nesaf.

 

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod Emyr Williams:

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r chwe aelod sydd wedi gadael y bwrdd yn ddiweddar am eu gwasanaeth i’r Awdurdod dros y tymor diwethaf, mae eu cyfraniadau wedi bod yn amhrisiadwy dros amser caled i ni gyd.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn dirwedd byw a mi fydd bwrdd yr Awdurdod yn wynebu heriau megis gwarchod bioamrywiaeth a rheoli ymwelwyr tra hefyd yn wynebu ffactorau eraill megis newid hinsawdd a chwyddiant.”

 

Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod, y Cynghorydd Annwen Hughes:

“Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i’m cyd-aelodau am fy’n ethol i’r swydd anrhydeddus hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i Wyn Ellis Jones am ei arweiniad proffesiynol ac ymroddgar fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rwy’n edrych ymlaen i arwain yr Awdurdod yn y dyfodol agos, er mwyn gwarchod ein cymunedau arbennig a thirweddau unigryw er mwyn i genhedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.”