Beth yw Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Mae Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn gynefinoedd hynod o brin.

Dim ond mewn ardaloedd sydd yn agos i’r môr ceir y coedwigoedd hyn—sy’n golygu fod Eryri yn le perffaith i gynefinoedd o’r fath. Mae amodau’r ardaloedd yma yn berffaith i blanhigion prin, cennau a fwngi’r coedwigoedd dyfu.

Mae hefyd modd cyfeirio at y coedwigoedd hyn fel Coedwigoedd Tymherus neu Goedwigoedd Atlantaidd.

Credir fod Coedwigoedd Glaw Celtaidd dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol.

Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd (LIFE) yn brosiect cadwraethol sy’n cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill sydd yn gweithio o fewn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r prosiect gwerth £7 miliwn yma’n gwarchod ac adfer coedwigoedd glaw celtaidd Eryri.

Amcanion y prosiect

Gwarchod a dathlu coedwigoedd glaw Eryri.

Rheoli rhywogaethau ymledol
Gall rhywogaethau ymledol megis y Rhododendron effeithio’n negyddol ar ecoleg naturiol coedlannau a choedwigoedd.
Adfer coedlannau derw hynafol
Cynnal gwaith cadwraethol sy’n rheoli lleoedd â choed derw hynafol er mwyn eu hadfer.
Ail gyflwyno anifeiliaid pori i goedlannau
Mae gadael i anifeiliaid megis gwartheg bori mewn coedlannau yn ffordd effeithiol o gynnal a rheoli coedwigoedd glaw.
Partneriaid
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio i sicrhau dyfodol gynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol.
  • Coed Cadw
    Mae Coed Cadw yn gorff sydd yn gwarchod ac adfer coedwigoedd ar draws Prydain, gan gynnwys Eryri.
  • RSPB
    Mae’r RSPB yn elusen sy’n gweithio ar draws Prydain i sicrhau fod cynefinoedd adar yn cael eu gwarchod a’u gwella.
  • Dŵr Cymru
    Mae’r Dŵr Cymru yn gwmni nid-er-elw sy’n gyfrifol am gyflenwad dŵr pob un o drigolion Cymru.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff sydd yn ymwneud â rhan helaeth o faterion amgylcheddol Cymru.

 

Ariennir
  • Natura 2000
    Mae Natura 2000 yn rwydwaith o ardaloedd natur gwarchodedig yn yr Undeb Ewropeaidd.
  • LIFE
    Mae cynllun LIFE yn ffynhonnell ariannol a sefydlwyd gan yr Undeb Ewropaidd ar gyfer ariannu gwaith amgylcheddol a gwaith sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

You've switched the language and there are items in the cart. If you keep the Cymraeg language, the cart will be emptied and you will have to add the items again to the cart.