Pryd a ble fydd y cwrs yn cael ei gynnal?
Cwrs sylfaenol: 28/02/24 – 01/03/24 am 9.00yb ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn, Beddgelert.
Cwrs uwch: 26/03/24 – 29/03/24 am 9.00yb ar safle’r Ymddiriedolath Genedlaethol yng Nghraflwyn, Beddgelert.
Buddion o fynychu’r hyfforddiant
- Cwrs am ddim.
- Cynigir grant hyfforddiant o £120 y person, y diwrnod am fynychu.
- Ad-delir costau teithio.
- Cwrs lefel Sylfaenol ac Uwch ar gael (bydd rhaid ymrwymo i’r ddau gwrs).
- Cyfle i gynnwys eich enw ar restr safonol o gontractwyr gyda’r tri mudiad.
Cynhelir y cwrs sylfaenol dros gyfnod o 3 diwrnod, a’r cwrs uwch dros gyfnod o 4 diwrnod. Gwelwch yr atodiad i’r dde (PDF) am wybodaeth ynghylch rhaglen a chynnwys y cyrsiau a ffurflen archebu. Bydd unigolion sy’n cwblhau’r cwrs sylfaenol yn gymwys i gyflawni cwrs uwch a gynhelir ym mis Mawrth 2024.
Pwy sy’n gymwys i fynychu’r cwrs?
Cyngir y cwrs hwn i unigolion neu gontractwyr sy’n gweithredu fel darparwyr gwasanaethau tirweddu, neu sydd am sefydlu busnes sy’n darparu gwasanaeth tirweddu ac sydd eisoes yn meddu ar sgiliau ymarferol mewn gwaith cerrig.
Diddordeb mewn mynychu?
Mae llefydd yn gyfyngedig ar y cwrs hwn. Er mwyn mynegi diddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb uchod (PDF) a’i anfon atom.