Y feithrinfa
Sefydlwyd y feithrinfa goed ym Mhlas Tan y Bwlch ar ddechrau’r 90au er mwyn hwyluso cyflenwad cyson o goed ar gyfer prosiectau plannu coed yr Awdurdod. Coed brodorol o had lleol sy’n cael eu tyfu yno, yn cynnwys derw, criafol a bedwen lwyd. Mae coed perthi yn cael eu tyfu yno hefyd, yn cynnwys y ddraenen wen a choed cyll.
Mae tua 15,000 o goed, yn lasbrennau a choed bychain, yn y feithrinfa ar unrhyw adeg, ac felly mae’n dipyn o waith plannu a gofalu amdanynt i gyd, yn enwedig yn yr haf pan fydd angen eu dyfrio’n rheolaidd. Bydd ail dwnnel poly newydd sydd wedi ei osod yno yn ddiweddar yn cynyddu capasiti’r feithrinfa o 5,000.
Er mwyn gofalu am y coed a sicrhau cyflenwad cyson mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, trwy gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, yn cydweithio â Choleg Cambria, Llysfasi ar gynllun prentisiaeth flynyddol, gyda’r prentis yn hollti ei (h)amser rhwng y coleg a’r feithrinfa. Prif gyfrifoldebau’r prentis yw casglu a phlannu hadau, a gofalu am y glasbrennau a’r coed nes byddant yn ddigon aeddfed i’w plannu allan yng nghefn gwlad.