Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Y feithrinfa

Sefydlwyd y feithrinfa goed ym Mhlas Tan y Bwlch ar ddechrau’r 90au er mwyn hwyluso cyflenwad cyson o goed ar gyfer prosiectau plannu coed yr Awdurdod. Coed brodorol o had lleol sy’n cael eu tyfu yno, yn cynnwys derw, criafol a bedwen lwyd. Mae coed perthi yn cael eu tyfu yno hefyd, yn cynnwys y ddraenen wen a choed cyll.

Mae tua 15,000 o goed, yn lasbrennau a choed bychain, yn y feithrinfa ar unrhyw adeg, ac felly mae’n dipyn o waith plannu a gofalu amdanynt i gyd, yn enwedig yn yr haf pan fydd angen eu dyfrio’n rheolaidd. Bydd ail dwnnel poly newydd sydd wedi ei osod yno yn ddiweddar yn cynyddu capasiti’r feithrinfa o 5,000.

Er mwyn gofalu am y coed a sicrhau cyflenwad cyson mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, trwy gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, yn cydweithio â Choleg Cambria, Llysfasi ar gynllun prentisiaeth flynyddol, gyda’r prentis yn hollti ei (h)amser rhwng y coleg a’r feithrinfa. Prif gyfrifoldebau’r prentis yw casglu a phlannu hadau, a gofalu am y glasbrennau a’r coed nes byddant yn ddigon aeddfed i’w plannu allan yng nghefn gwlad.

Pam fod angen coed arnom?
Mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn blaenoriaethu’r angen i blannu coed. Mae llawer o stoc goed frodorol y Parc yn cyrraedd diwedd eu hoes, ac mae ein coed ynn dan fygythiad enbyd o’r clefyd coed ynn sy’n lledaenu fel tân gwyllt trwy ein coedlannau. Yn ogystal â’u gallu i storio carbon, gwella ansawdd aer a lliniaru effaith glaw trwm, mae coed yn hynod bwysig i fioamrywiaeth hefyd, gan eu bod yn darparu cynefin cysgodol a diogel i fywyd gwyllt.
Volunteers take part in tree planting
Plannu coed
Bydd y coed a dyfir yn y feithrinfa’n cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau plannu coed yr Awdurdod. Rydym hefyd yn fwy na pharod i gyflenwi coed i unrhyw un sy’n dymuno  plannu coed brodorol yn eu gerddi neu ar eu tir.