Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Gwarchod a dathlu treflun Dolgellau

Rhai o nodweddion amlycaf tref Dolgellau yw ei hadeiladau uchel o gerrig llwydion dolerit a llechen, a’i gwe o strydoedd cul sydd wedi esblygu a datblygu yn ddamweiniol dros bedwar canrif.

Mae 180 o adeiladau’r dref wedi eu rhestru, ac mae llawer o adeiladau hanesyddol y dref, rhai masnachol yn bennaf, yn adfail, yn wag neu yn rhannol wag ers blynyddoedd.

Y Prosiect

Er mwyn helpu i adfywio’r dref sefydlwyd Prosiect Treftadaeth Treflun Dolgellau, sef partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Gwynedd yn 2016 fel ail gyfnod i Fenter Treftadaeth Treflun Dolgellau.

Bydd y prosiect yn cynnig grantiau tuag at waith atgyweirio ar adeiladau, adfer nodweddion pensaernïol sydd wedi eu colli ynghyd â dod a lloriau gwag yn ôl i ddefnydd economaidd.

Amcan arall y fenter yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o dreftadaeth y dref ac annog trigolion ac ymwelwyr i ymwneud mwy â’u treftadaeth ddiwylliannol.

Bwthyn Penmaen

Mae Bwthyn Penmaen yn ffermdy traddodiadol Gradd II rhestredig o’r 18fed ganrif ger Llynpenmaen (Penmaenpool), Dolgellau.

Roedd cyflwr y to llechi traddodiadol wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd, a roedd yr eiddo wedi ei gynnwys ar gofrestr Adeiladau mewn Perygl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Llwyddodd y perchnogion gael grant i adfer yr adeilad gan Cadw. Un amod o’r grant oedd bod rhaid cynnal hyfforddiant ar sgiliau traddodiadol fel rhan o’r gwaith. Arweiniodd hyn at gydweithio gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer darparu hyfforddiant toi llechi traddodiadol o dan elfennau addysg a hyfforddiant Menter Treftadaeth Treflun Dolgellau.

Fe roedd yr hyfforddiant 10 diwrnod yn rhad ac am ddim i fynychwyr; yn amrywio o gontractwyr, ymgynghorwyr proffesiynol i swyddogion Awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol.

Roedd yr hyfforddiant yn lwyddiant mawr gyda chyfanswm o 75 o bobl yn mynychu. Roedd cyfle i’r mynychwyr ennill profiad ymarferol ar y cymhlethdod o do llechi ar hap gostyngol traddodiadol yn cynnwys dyffrynnoedd ‘half swept’.

Er mwyn darllen cofnod mwy manwl o ail-doi Bwthyn Penmaen yn ogystal a gweld lluniau a fidios, gallwch ymweld â gwefan Stone Roof Association.

Ail doi Bwthyn Penmaen (Stone Roof Association)

Siop Newydd

Mae Siop Newydd wedi bod yn eiddo masnachol yng nghanol Dolgellau ers peth amser. Nid yw dyddiad adeiladu yr adain gefn yn sicr, ond serch hynny, mae’r ffenestri a rhai o’r ffitiadau sydd wedi goroesi yn dyddio’n ôl i’r 19eg canrif.

Mae presenoldeb pren sylweddol dros y grisiau ac aliniad y gwaith pren agored yn awgrymu tuag at gyfnodau cynnar o adeiladwaith. Mae trawst pren yn y seler o dan y rhes flaen gyda siamffr cau sy’n awgrymu ei fod wedi ail ddefnyddio o nenfwd, efallai o’r adeilad y newidwyd gan y rhan blaen o’r adeilad presennol yn yr 1820’au cynnar. Nid yw trawstiau o’r math yma yn anghyffredin yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg.