Fel Awdurdod rydym wedi cychwyn ar genhadaeth hir-dymor i adfer cyflwr ein mawndiroedd er budd yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
Gyda thraean o fawndiroedd Cymru yma yn Eryri, mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. Rydym yn cydweithio gyda thirberchnogion a phartneriaid i gau ffosydd artiffisial, ail-broffilio torlannau mawn (clogwyni bychan o fawn moel), ail-blannu mawn moel a thorri coed pinwydd.
Trwy gydweithio agos gydag amaethwyr a phorwyr, gallwn sicrhau eu bod yn gallu parhau i bori’r tir. Mae pori cynaliadwy yn fuddiol i’r mawndir gan ei fod yn ei gadw’n iach ac yn rhwystro unrhyw un rhywogaeth rhag goruchafu.
Pam fod angen adfer ein mawndiroedd?
Mae mawndir yn dal mwy o garbon nag unrhyw fath arall o bridd. Mae mawndiroedd Eryri yn storio mwy na 52% o’n carbon pridd, er mai dim ond 12% o’r ardal sy’n fawndir. Dros y degawdau mae llawer o’n mawndiroedd wedi eu difrodi gan ffosydd, erydiad, gor-bori, plannu coed a hyd yn oed torri mawn fel tanwydd yn y dyddiau a fu. Mae mawn agored, sych yn rhyddhau tunelli o garbon bob blwyddyn gan fod y storfa garbon anferth yn ein mawndiroedd yn cael ei falurio neu ei olchi ymaith, ac felly mae’n rhaid eu hadfer er mwyn atal carbon rhag cael ei ryddhau ohonynt.
Ar hyn o bryd mae 75% o fawndiroedd Cymru wedi eu difrodi neu eu haddasu ac yn gollwng 510kt o garbon bob blwyddyn. I roi hynny mewn cyd destun, byddai angen plannu bron i 8.5 miliwn o goed a’u gadael i dyfu am 10 mlynedd er mwyn storio gymaint â hynny o garbon! Felly mae’n rhaid i ni eu hail-wlychu, gorchuddio mawn agored a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Gall gymryd hyd at 30 mlynedd i ni ddechrau gweld y gwaith adfer yn dwyn ffrwyth. Serch hynny, dim ond ychydig flynyddoedd mae’n cymryd i fywyd gwyllt ddechrau dychwelyd, ac rydym eisoes wedi gweld dychweliad y gylfinir a’r gïach, a sawl math o was y neidr.