Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
MAES PARCIO PEN Y PASS: Gellir nawr ragarchebu lle parcio ym Mhen y Pass.
Gwaith adfer mawndiroedd

Fel Awdurdod rydym wedi cychwyn ar genhadaeth hir-dymor i adfer cyflwr ein mawndiroedd er budd yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

Gyda thraean o fawndiroedd Cymru yma yn Eryri, mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. Rydym yn cydweithio gyda thirberchnogion a phartneriaid i gau ffosydd artiffisial, ail-broffilio torlannau mawn (clogwyni bychan o fawn moel), ail-blannu mawn moel a thorri coed pinwydd.

Trwy gydweithio agos gydag amaethwyr a phorwyr, gallwn sicrhau eu bod yn gallu parhau i bori’r tir. Mae pori cynaliadwy yn fuddiol i’r mawndir gan ei fod yn ei gadw’n iach ac yn rhwystro unrhyw un rhywogaeth rhag goruchafu.

Pam fod angen adfer ein mawndiroedd?

Mae mawndir yn dal mwy o garbon nag unrhyw fath arall o bridd. Mae mawndiroedd Eryri yn storio mwy na 52% o’n carbon pridd, er mai dim ond 12% o’r ardal sy’n fawndir. Dros y degawdau mae llawer o’n mawndiroedd wedi eu difrodi gan ffosydd, erydiad, gor-bori, plannu coed a hyd yn oed torri mawn fel tanwydd yn y dyddiau a fu. Mae mawn agored, sych yn rhyddhau tunelli o garbon bob blwyddyn gan fod y storfa garbon anferth yn ein mawndiroedd yn cael ei falurio neu ei olchi ymaith, ac felly mae’n rhaid eu hadfer er mwyn atal carbon rhag cael ei ryddhau ohonynt.

Ar hyn o bryd mae 75% o fawndiroedd Cymru wedi eu difrodi neu eu haddasu ac yn gollwng 510kt o garbon bob blwyddyn. I roi hynny mewn cyd destun, byddai angen plannu bron i 8.5 miliwn o goed a’u gadael i dyfu am 10 mlynedd er mwyn storio gymaint â hynny o garbon! Felly mae’n rhaid i ni eu hail-wlychu, gorchuddio mawn agored a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Gall gymryd hyd at 30 mlynedd i ni ddechrau gweld y gwaith adfer yn dwyn ffrwyth. Serch hynny, dim ond ychydig flynyddoedd mae’n cymryd i fywyd gwyllt ddechrau dychwelyd, ac rydym eisoes wedi gweld dychweliad y gylfinir a’r gïach, a sawl math o was y neidr.

Pa fuddion eraill ddaw o adfer ein mawndiroedd?

https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/03/Migwyn-Sphagnum-scaled.jpg
Lliniaru effaith llifogydd
Yn ogystal â bod yn storfa garbon anferth, mae mawndiroedd yn adnodd gwych ar gyfer lliniaru effaith glaw trwm. Mae mawndiroedd fel sbwng anferth sy’n storio dŵr. Fel arfer maent yn llawn o ddŵr, felly nid ydynt yn dal llawer iawn mwy o ddŵr pan fydd hi’n bwrw glaw, ond mae strwythur y rhigolau troellog, mwsoglau a grug yn arafu llif y dŵr gan leihau llifogydd ar y tir is. Maent hefyd yn bwysig yn ystod cyfnodau o sychder, gan eu bod yn parhau i ryddhau eu storfa ddŵr yn ara deg gan gynnal lefelau dŵr afonydd a dalgylchoedd dŵr.
https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/03/giach-snipe.png
Hafan i fywyd gwyllt
Mae mawndiroedd mewn cyflwr iach yn gynefin perffaith i bob mathau o blanhigion a bywyd gwyllt, yn cynnwys rhai rhywogaethau na fyddwch yn eu gweld yn unman arall fel y planhigyn cigysol, y Gwlithlys neu'r migwyn wrthseptig naturiol, Sphagnum. Ers dechrau ymgymryd â gwaith adfer rydym wedi gweld adar fel y gylfinir a’r gïach yn dychwelyd i’n mawndiroedd, a llawer o weision y neidr ac amffibiaid.
https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2022/03/dwr-tap-water.png
Gwella ansawdd dŵr
Mae’r rhan fwyaf o’n dŵr yfed yn dod o gronfeydd dŵr ucheldirol sy’n cael eu bwydo gan y mawndiroedd. Pan fydd mawndiroedd yn cael eu difrodi maent yn erydu i’r dalgylchoedd dŵr, sy'n arwain at gostau hidlo a phrosesu uchel i lanhau’r dŵr. Mae dŵr sy’n deillio o fawndir iach yn cael ei hidlo’n naturiol ac yn cynnwys llai o lygryddion a maetholion, sy’n golygu bod angen llai o brosesu cyn iddo gyrraedd ein cartrefi.
Plu'r Gweunydd Cornicyll y Mynydd Gwlithlys Ffa'r Gors  Gïach Migwyn
Plu'r Gweunydd
Cornicyll y Mynydd
Gwlithlys
Ffa'r Gors
Gïach
Migwyn
This site is registered on wpml.org as a development site.