Mae SMS (Sustainable Management Scheme) Amaethwyr Mawddwy yn brosiect gwerth oddeutu £600,000 a ariennir drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Darperir y prosiect gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan gydweithio â phum tirfeddiannwr. Fe’i lleolir yn ne’r Parc Cenedlaethol yn Nyffryn Mawddwy.

Amcanion y Prosiect

Prif amcanion y prosiect yw gwella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd trwy blannu gwrychoedd a choetiroedd bychain helaeth, ac adfer mawndiroedd i wella storfeydd carbon a dŵr naturiol.

Yn ogystal, bydd y prosiect yn cydweithio â sefydliadau bach lleol a’r coleg lleol i hyrwyddo a gwella llwybrau troed.

Bydd y prosiect yn gweithio ochr yn ochr â chymdeithas Eryri i gynnal digwyddiadau gwirfoddol mewn corneli tawelach, llai adnabyddus o’r Parc Cenedlaethol.

Partneriaid y Prosiect

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Amaethwyr Mawddwy
  • Cymdeithas Eryri
  • Cwmni Nod Glas
  • Coleg Meirion Dwyfor
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol