Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Coedwigwr APCE yn plannu coeden - ENPA Forester planting a tree
Pam ydym ni angen Cynllun Gweithredu?
Wedi dwy flynedd o gyd-ddylunio gyda thirberchnogion, rheolwyr tir, rhanddeiliaid lleol a phartneriaid allweddol eraill, rydym wedi datblygu ein drafft cyntaf o Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri. O ganfyddiadau’r broses cyd-ddylunio, mae’n amlwg bod angen gwarchod, gwella ac ehangu ein coed a choetiroedd dros gyfnod hirach o amser. Ein huchelgais yw cysylltu pobl o bob cefndir gyda choed yn y tirlun arbennig yma fel y gallant fwynhau’r llu o fuddion maent yn eu cynnig am o leiaf 100 mlynedd.

Pa gamau allwch chi eu cymryd?

Mae gweithredu dros goed a choetiroedd ar lefel lleol a rhanbarthol yn hanfodol er mwyn cyflawni’r uchelgais ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri. Hoffem glywed gennych chi ynghylch yr hyn y gallwch chi ei wneud er mwyn sicrhau y gwelwn gynnydd effeithiol o’r strategaeth hon.

Er mwyn rhoi gwybod i ni ynghylch y camau yr hoffech chi eu cymryd yn unol â’r strategaeth hon, dewch i’n gweld yn un o’n sesiynau galw mewn, neu gallwch sgwrsio gyda ni trwy archebu un o’n slotiau sgwrsio ar-lein.

Dewch draw am sgwrs efo ni yn y sesiynau galw-mewn anffurfiol yma…

7 Ionawr: Neuadd Egryn, Llanegryn – 18:00-21:00
14 Ionawr: Neuadd y Pentref, Llanuwchllyn – 18:00-21:00
23 Ionawr: Canolfan Gymunedol Capel Curig – 18:00-21:00

Croeso i bawb!

Methu dod i un o’n sesiynau galw-mewn?

Os nad ydych yn gallu mynychu un o’n sesiynau galw-mewn, gallwch gymryd rhan yn y broses o gynllunio gweithredu trwy gwblhau’r arolwg isod.

Cwblhau Arolwg Cynllun Gweithredu

Dogfennaeth berthnasol

Cliciwch ar y ddolen isod i agor fersiwn PDF o’r Strategaeth Coed a Choetiroedd Drafft. Bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w fabwysiadu’n ffurfiol yn y Gwanwyn.

Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri 2025-2125 (DRAFFT)