Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Choed Cadw wedi cychwyn proses dau gam i ddatblygu Strategaeth Coed a Choedlannau mewn ymateb i astudiaeth ar ôl troed carbon Parciau Cenedlaethol y DU.

Nod y strategaeth yw rhoi arweiniad a gweledigaeth ar gyfer mentrau plannu coed, gan ystyried agweddau ecolegol, cymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth. Mae’r Awdurdod yn cydnabod yr angen i gydbwyso lleihau carbon a chadwraeth amgylcheddol ag anghenion cymunedau lleol. Trwy fabwysiadu dull cyd-ddylunio, gan gynnwys rhanddeiliaid ac ymgorffori gwybodaeth leol, nod y strategaeth yw bod yn gynhwysfawr, effeithiol a chynaliadwy wrth reoli coed a choedlannau yn y Parc Cenedlaethol. Y nod yw sicrhau bod mentrau plannu coed yn cyfrannu’n gadarnhaol at nodau hinsawdd a llesiant Eryri a’i thrigolion.

Hoffem glywed eich barn

Helpwch ni i gasglu mewnwelediad gwerthfawr trwy lenwi’r holiadur a’i rannu gyda’ch cysylltiadau.

Cwblhau’r Holiadur