Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yr wythnos hon bydd y gwasanaeth blynyddol o adrodd ar amodau dan draed ar Yr Wyddfa yn cychwyn, diolch i gynllun a gydlynir ac a ariennir gan Wasanaeth Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 hithau’n ganol mis Tachwedd bydd y dyddiau byr a’r tywydd anwadal yn gyrru llawer o gerddwyr i fwynhau tiroedd is Eryri. Ond i eraill bydd dyfodiad yr amodau gaeafol ar ein mynyddoedd uchaf i’w groesawu. Er bod yr eira yn edrych yn hardd ac atyniadol, heb yr offer a’r profiad angenrheidiol gall hyd yn oed yr haen deneuaf o eira neu rew droi rhannau gweddol syml o lwybr yn dipyn o orchest.

Er mwyn helpu cerddwyr i wneud penderfyniad gwybodus cyn mentro allan ar y mynydd yn ystod y gaeaf mae Awdurdod y Parc yn cytundebu cwmni lleol i ymgymryd â’r gwaith o baratoi adroddiadau rheolaidd a manwl ar yr amodau ar y ddaear ar yr Wyddfa trwy gydol y gaeaf.

Dros fisoedd y gaeaf bydd Stephen Jones o gwmni Anelu Aim Higher yn dringo’r Wyddfa ddwywaith yr wythnos er mwyn cynnal asesiad o’r amodau dan draed a darparu adroddiad ar dudalen bwrpasol ar wefan Awdurdod y Parc. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cynnwys manylion ynghylch lefel yr eira a rhew, unrhyw luwchfeydd eira a chyflwr y rhew dan draed, yn ogystal â chyngor cyffredinol ynghylch y cyfarpar sydd ei angen.

Gall darpariaeth gwybodaeth hygyrch a chyfredol leihau teithiau ofer i ddringo’r Wyddfa gan y gall pobl o bob cwr o’r wlad gynllunio eu hymweliad at pan fydd yr amodau yn iawn ac yn gweddu lefel eu gallu a’u profiad.

Meddai Rhys Wheldon-Roberts, Uwch Warden Awdurdod y Parc ar gyfer ardal y Gogledd:

“Tra bod yr amodau dan draed ar lethrau isaf yr Wyddfa yn weddol hydrin yn ystod y gaeaf, gall yr amodau newid yn gyflym ac yn sylweddol wrth i chi ddringo’r mynydd, ac yn aml bydd gofyn am gyfarpar arbenigol fel bwyell rhew a chramponau, ac oherwydd hynny mae’r adnodd yma yn hynod o werthfawr, yn enwedig pan na fydd amodau fel rhew yn amlwg i’r llygad o’r gwaelodion.”

Meddai Stephen Jones o gwmni Anelu Aim Higher

“Gyda’r tywydd yn newid i fod yn fwy gaeafol, mae angen cynllunio a pharatoi o flaen llaw os ydych am gerdded llethrau’r Wyddfa. Mae’r adroddiadau a’r wybodaeth a ddarparir yn rhoi braslun o’r amodau dan draed ac yn cyfrannu tuag at eich gwybodaeth cyn mentro allan i gerdded y mynyddoedd.”

Bydd asesiadau’n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos gyda’r llwybrau a asesir yn amrywio. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei uwchlwytho cyn gynted â phosib ar dudalen bwrpasol ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri – Snowdonia (llyw.cymru) yn ogystal â Twitter. Am gyngor ymarferol ynghylch sut i gael diwrnod da a diogel ar y mynyddoedd yn y gaeaf ewch i wefan Mentro’n Gall ar AdventureSmartUK | Be Adventure Smart: make your good day better

Nodyn i Olygyddion

    1. Bydd asesiadau yn cael eu cynnal drwy’r gaeaf tan ddiwedd mis Mawrth pan fydd y tebygolrwydd o dywydd gaeafol ar y mynydd wedi lleihau.
    2. Yn ogystal ag ar wefan yr Awdurdod bydd hysbysiadau o’r diweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfrif Twitter Eryri Warden Report @snowdonweather yn ogystal â gwefan y Swyddfa Dywydd Snowdonia – Mountain weather forecast – Met Office
    3. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru