Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Cyfle gyrfa: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn chwilio am Hyfforddai Graddedig i arbenigo mewn Cadwraeth Adeiledig.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch o gynnig cyfle unigryw i unigolyn graddedig sy’n angerddol am gadwraeth adeiladau hanesyddol. Am y ddwy flynedd gyntaf bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu’r oriau gwaith rhwng ymgymryd â chwrs gradd Meistr Cadwraeth yr Amgylchedd Hanesyddol, a gweithio’n rhan amser gyda’r Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu. Wedi cymhwyso bydd cyfnod dilynol o ddwy flynedd o gyflogaeth llawn amser gyda’r Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu.

Un o rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri yw’r dreftadaeth gyfoethog o adeiladau a henebion sy’n ffurfio rhan o’i hamgylchedd adeiledig hanesyddol. O fewn ei ffiniau mae tua 2000 o adeiladau rhestredig; adeiladau sy’n ganolog i dirwedd a diwylliant Eryri, sydd hefyd yn cyfrannu at ymdeimlad o le a hunaniaeth.

Mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdod y Parc i warchod a gwella amgylchedd adeiledig hanesyddol Eryri. Cyflawnir hyn drwy’r broses gynllunio, ond hefyd trwy fonitro cyflwr adeiladau a chydweithio gyda chymunedau, yn arbennig o fewn yr 14 o Ardaloedd Cadwraeth sydd wedi eu dynodi yn Eryri.

Penodiad pedair blynedd sydd ar gynnig, gyda’r posibilrwydd o’i gwneud yn swydd barhaol. Dros y ddwy flynedd gyntaf bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio’n rhannol tuag at radd Meistr mewn Cadwraeth Adeiledig tra hefyd yn ennyn profiad o’r maes Cynllunio trwy gefnogi Swyddogion Cynllunio gyda gwaith dydd i ddydd y Gwasanaeth. Wedi cymhwyso, bydd cyfle i ddatblygu profiad a gwybodaeth ymhellach trwy weithio fel Swyddog Cynllunio Cadwraeth Adeiledig llawn amser.

Meddai Iona Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cyfle arbennig ac unigryw yma i rywun sydd am gychwyn gyrfa yn y maes adeiladau hanesyddol mewn Parc Cenedlaethol. Mae prinder cyffredinol o Swyddogion Cadwraeth Adeiledig, ond yn arbennig rhai sy’n medru’r Gymraeg, ac felly mae penodi yn gallu bod yn heriol. Yn ogystal â rhoi cyfle i unigolyn brwdfrydig gael cychwyn ar yrfa broffesiynol dda a sefydlog, bydd y cynllun yma hefyd yn helpu i ehangu’r pŵl o arbenigwyr cynllunio sy’n gallu darparu gwasanaeth i’r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y swydd, bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd o safon sy’n cwrdd â gofynion mynediad cwrs Meistr mewn prifysgol o’u dewis hwy, yn ogystal â diddordeb mewn adeiladau hanesyddol.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw’r 19eg o Chwefror 2024.
  2. Mae’n bosib y bydd swydd barhaol ar gael ar ddiwedd y 4 mlynedd, yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol.
  3. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar sgiliau iaith sy’n cwrdd â gofynion y swydd, yn seiliedig ar Fframwaith Sgiliau Iaith APCE.
  4. Bydd yr Awdurdod yn talu ffi’r cwrs Meistr, yn ogystal â chostau teithio i fynychu’r Brifysgol yn achlysurol (tua 1 diwrnod y mis).
  5. Bydd amser ar gyfer astudio a mynychu’r Brifysgol yn cael eu neilltuo o fewn yr oriau gwaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn hyfforddiant mewnol a goruchwyliaeth lawn gan y Rheolwr Llinell.
  6. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274/ 01766 772 238