Hysbysiad archwilio lle nad yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol yn gallu ardystio’r cyfrifon oherwydd nad yw’r cyfrifon wedi eu paratoi.
Mae Rheoliad 10(1) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Cyllid Cyfrifol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn llofnodi’r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio’i fod yn cyfleu darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi, ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Yn ôl y Rheoliadau ‘roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022.
Nid yw’r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio’r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Mae goblygiadau’r pandemig COVID-19 ynghyd â chapasiti yr Awdurdod a rhai trafferthion technegol yn arwain at oediad gyda chwblhau’r datganiad cyfrifon. Serch hynny, bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei gwblhau cyn gynted a phosibl ac o fewn amserlen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru. Bryd hynny bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio’r datganiad cyfrifon.