Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ar y 7fed o Hydref, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cyngor Gwynedd ddigwyddiad unigryw ym Mhlas Tan y Bwlch a ddaeth â meysydd lles, hanes a chelf ynghyd. Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys artist natur, Tim Pugh, a’r hanesydd, Dr David Gwyn, yn ddathliad o dreftadaeth lechi gyfoethog yr ardal a’i chysylltiad dwfn â byd natur.

Yn swatio yng nghanol cefn gwlad Cymru, roedd Plas Tan y Bwlch yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad wedi’i anelu at faethu’r meddwl, y corff a’r enaid, ac yn ddihangfa o brysurdeb bywyd bob dydd.

Roedd agwedd hanesyddol y digwyddiad yn canolbwyntio ar dreftadaeth lechi gyfoethog y rhanbarth. Mae gan gogledd orllewin Cymru hanes hir a chwedlonol o gloddio llechi, gyda gweddillion hen chwareli a diwydiant llechi wedi’u gwasgaru ar draws y tirwedd. Rhannodd yr hanesydd fewnwelediadau hynod ddiddorol i fywydau’r rhai oedd yn gweithio yn y chwareli, a’r etifeddiaeth barhaus a adawsant ar eu hôl.

Yn y prynhawn bu’r artist natur dawnus, Tim Pugh, yn arwain cyfranogwyr i greu eu gweithiau celf eu hunain wedi’u hysbrydoli gan straeon llechi Gogledd Orllewin Cymru. Drwy ddefnyddio defnyddiau naturiol o goedwig Plas Tan y Bwlch, fe wnaeth y mynychwyr greu gweithaiu celf unigryw oedd yn dyst i’r cysylltiad dwys rhwng natur, hanes, a mynegiant artistig. Roedd hyn yn gyfle i gyfranogwyr ailgysylltu â byd natur, gwerthfawrogi arwyddocâd hanesyddol y rhanbarth, a mynegi eu creadigrwydd trwy gelf. Roedd y diwrnod arbennig hwn yn fodd i’n hatgoffa bod harddwch Gogledd Orllewin Cymru nid yn unig yn ei thirweddau ond yn y straeon sydd wedi’i llunio dros y canrifoedd hefyd.