Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yr wythnos nesaf, o’r 21ain tan y 26ain o Dachwedd byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer ein Llysgenhadon er mwyn dathlu llwyddiant y cynllun ers ei lansio ddwy flynedd yn ôl.

Ers lansio mae bron i 800 o bobl wedi derbyn y teitl Llysgennad Eryri trwy gyflawni cyfres o fodiwlau sy’n cynnig hyfforddiant safon uchel i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am beth sy’n gwneud Eryri’n eithriadol.

Wythnos nesaf mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu er mwyn diolch i’n llysgenhadon am eu hymroddiad i rannu ein negeseuon. Rydym hefyd yn cynnig nifer cyfyngedig o lefydd i’r cyhoedd er mwyn dangos be all y rhaglen gynnig i gynulleidfa newydd. Mae’r wythnos yn cynnwys sgyrsiau gan Swyddogion y Parc Cenedlaethol, plannu coed, noson yn dysgu am ein hawyr dywll, a theithiau cerdded bywyd gwyllt a meddylgarwch.

Mae cynllun Llysgennad Eryri yn cael ei ddiweddaru yn gyson ac yn cynnig modiwlau newydd dros amser. Rydym yn edrych ymlaen i lansio rhai newydd y flwyddyn nesaf fydd yn cynnwys modiwl ar y Carneddau mewn cydweithrediad a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.

Dywedodd Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa:

“Rydym yn falch iawn o waith caled ac ymroddiad ein llysgenhadon i gyflawni rhaglen Llysgennad Eryri.

Ein nôd yw i’r wybodaeth yn y cynllun gael ei rannu yn eang er mwyn annog deallusrwydd pellach o’r ardal gyfan, dyna pam yr ydym yn annog ein llysgenhadon i gyflawni’r modiwl ailgymhwyso er mwyn adafael ar eu Hachrediad Aur 2023. Rydym hefyd yn gobeithio bydd rhaglen wythnos nesaf yn annog mwy i arwyddo i’r cynllun”.

Diwedd.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Gwefan Llysgennad Eryri
  2. Rhaglen llawn o ddigwyddiadau
  3. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru