Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Datganiad i’r wasg gan Yr Urdd

Mistar Urdd yn dilyn ôl troed James Bond a Lara Croft

Dau o eiconau Cymru’n cwrdd

Heddiw, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad, mae’r Urdd wedi gosod cerflun o Mistar Urdd yn eistedd ar fainc hanner ffordd i fyny’r Wyddfa, ger Llyn Llydaw. Mae’r fainc yn cynnig cyfle i unigolion, ffrindiau a theuluoedd eistedd, mwynhau’r olygfa a chymryd hunlun gyda Mistar Urdd, fel rhan o gystadleuaeth i ennill y fainc am wythnos ar gyfer ysgol, elusen neu sefydliad. Mae’r fainc wedi’i gosod dros dro a bydd yn teithio i leoliadau eraill ledled Cymru yr haf hwn.

Mae creigiau mawreddog Crib Goch a chopa’r Wyddfa yn gefndir i unrhyw hunluniau sy’n cael eu cymryd yn y man hwn, sydd 1,430 troedfedd uwchlaw’r môr. Dyma fydd y man uchaf i Mistar Urdd fod ar y ddaear, er iddo gyrraedd y gofod ym 1998 pan deithiodd gyda’r gofodwr o Gymru a Chanada, Dafydd Rhys Williams, i’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Roedd grŵp o blant Blwyddyn 5 rhwng 9 a 10 oed o Ysgol Gynradd Llanrug ymysg y rhai cyntaf i gael tynnu eu lluniau gyda Mistar Urdd, wrth iddynt gymryd rhan mewn taith gerdded ar yr Wyddfa gydag un o Swyddogion Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd. Mae Llyn Llydaw wedi’i leoli ar lwybr hygyrch a phoblogaidd, sef Llwybr y Mwynwyr, ac mae ar dir sy’n berchen i Ystâd Baron Hill, a roddodd ganiatâd, yn garedig, i Mistar Urdd a’i fainc aros ar yr Wyddfa am y cyfnod hwn. Ystâd Baron Hill yw’r un ystâd a roddodd ganiatâd i griw ffilm James Bond, The World is Not Enough, yn ogystal â’r ffilm Lara Croft and the Cradle of Life (Tomb Raider), gael mynediad i’w brig caregog.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:

“Roedd yr Wyddfa yn lle perffaith i lansio ein cystadleuaeth hunlun ar fainc Mistar Urdd oherwydd roeddem eisiau i un eicon Cymreig gwrdd ag un arall, ond hefyd roeddem am weithio ar godi ymwybyddiaeth yr Urdd i gynulleidfa newydd, fel rhan o’n hymdrechion i sicrhau dyfodol yr Urdd am ganrif arall.

“Hoffwn roi diolch mawr i blant Ysgol Gynradd Llanrug am ymuno â ni ar ein taith gerdded fer ar yr Wyddfa heddiw, ac am fod y cyntaf i gael tynnu eu llun gyda mainc Mistar Urdd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Barc Cenedlaethol Eryri ac Ystâd Baron Hill am ganiatáu i Mistar Urdd gael cartref dros dro ar yr Wyddfa. Rydym yn edrych ymlaen at weld cynigion pawb ar gyfer cystadleuaeth hunlun Mistar Urdd drwy gydol yr haf. Haf hapus i bawb.”

Bydd y fainc hunlun yn aros ar yr Wyddfa tan yr oriau mân ar ddydd Llun 18 Gorffennaf. Ei leoliad nesaf fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn iddo gael lle anrhydeddus yn Nhŷ Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham. Yr Urdd yw partner trydydd sector swyddogol Tîm Cymru a Mistar Urdd yw ei fascot swyddogol ar gyfer y gemau. Bydd y fainc yna’n dychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer ychydig o ddyddiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn dilyn hynny bydd yn mynd i farchnad dan do newydd Casnewydd. Ac wedi iddo dreulio wythnos mewn ysgol neu gymuned ym yr Hydref, mi fydd y fainc yn symud i’w gartref parhaol yn un o wersylloedd yr Urdd.

Meddai Ailish Harker Roberts, Swyddog Pobl Ifanc Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i barhau i gydweithio gyda’r Urdd er mwyn dathlu’r canmlwyddiant ac hyrwyddo cyfleoedd awyr agored at genhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc. Mi fydd hyn yn cyfrannu at eu deallusrwydd o bwysigrwydd yr ardal a’r amgylchedd at eu iechyd a’u llesiant. 

“Rydym am sicrhau bod tirweddau bregus Eryri yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a dim ond trwy addysgu a gweithio gyda’n gilydd fydd hyn yn digwydd. Mae rhoi y cyfle i bobl ddringo rhan o’r Wyddfa er mwyn tynnu hunlun gyda Mistar Urdd ar yr un pryd yn mynd i annog mwy i ddysgu am yr hanes, treftadaeth, diwylliant, bywyd gwyllt a thirweddau amrywiol y rhan arbennig yma o’r byd.”

Crëwyd y fainc Mistar Urdd gan gwmni Cymreig o’r enw Wild Creations, dylunwyr y ‘bêl ar y wal’ enwog ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ar Gastell Caerdydd, yn ogystal â llythrennau EPIC Croeso Cymru o 2016. Mae’r Urdd yn annog pawb i rannu eu hunluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HunlunMistarUrdd i fod â chyfle i ennill mainc Mistar Urdd am wythnos yn yr hydref. Gellir canfod gwybodaeth am y gystadleuaeth a’r lleoliadau, yn ogystal â rhagor o gyhoeddiadau am y lleoliadau, ar wefan y fainc hunlun: www.urdd.cymru/hunlunmistarurdd

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: