Mae’r gwasanaeth blynyddol a ddarperir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol o ddarparu adroddiadau ar amodau dan draed ar Yr Wyddfa wedi cychwyn.
Gyda’r dyddiau byr a thywydd oerach bydd llawer o gerddwyr yn anelu am diroedd is Eryri yn ystod tymor y gaeaf. Ond i fynyddwyr profiadol, bydd dyfodiad amodau gaeafol i’w groesawu, â’u bwyelli ia a’r cramponau yn barod am ddyfodiad yr eira cyntaf.
Er mwyn cynorthwyo mynyddwyr i gynllunio a pharatoi ar gyfer yr amodau o’u blaenau mae Awdurdod y Parc unwaith eto wedi cytundebu unigolyn lleol i ymgymryd â’r gwaith o baratoi adroddiadau manwl a rheolaidd ynghylch yr amodau dan draed ar yr Wyddfa.
Ddwywaith yr wythnos o fis Tachwedd tan fis Mawrth bydd Gerwyn Madog yn dringo’r Wyddfa er mwyn cynnal asesiad o’r amodau dan draed. Wedi dod yn ôl i lawr bydd yn paratoi adroddiad a gyhoeddir ar dudalen bwrpasol ar wefan Awdurdod y Parc. Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am lefel yr eira a rhew, unrhyw luwchfeydd a chyflwr y rhew dan draed. Trwy gael yr wybodaeth gyfredol yma i law mae’n arfogi mynyddwyr gyda’r wybodaeth y maent ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r amodau ar y mynydd yn gweddu eu lefel sgiliau a phrofiad.
Trwy ddarparu adroddiadau rheolaidd ar-lein bydd yn lleihau teithiau ofer i ddringo’r Wyddfa gan y gall mynyddwyr benderfynu a ydynt am fwrw ‘mlaen â’u cynlluniau cyn teithio. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i atal unrhyw ddamweiniau all ddigwydd pan fydd cerddwyr yn mentro allan waeth beth yw’r amodau rhag eu bod yn cael siwrnai wag.
Meddai Bethan Wynne Jones, Uwch Warden Awdurdod y Parc ar gyfer ardal y Gogledd:
“Mae cerdded ar Yr Wyddfa yn ystod misoedd y gaeaf yn galw am sgiliau, profiad a chyfarpar arbenigol ychwanegol, fel bwyeill ia a chramponau. Nod yr adnodd ‘Adrodd am Amodau Dan Draed’ yw darparu darpar fynyddwyr a cherddwyr â gwybodaeth ynghylch yr amodau ymlaen llaw, er mwyn eu cynorthwyo i wneud penderfyniad gwybodus cyn mentro allan ar y mynydd, ac i ystyried a oes ganddynt y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i fwynhau’r mynydd yn ddiogel. Mae ein hadroddiadau ‘Amodau Dan Draed’ yn adnodd hynod werthfawr, yn enwedig pan fydd amodau fel gorchudd a dyfnder eira a rhew i’w gweld o’r godreon”.
Meddai Gerwyn Madog:
“Os am roi’r cyfle gorau i chi’ch hun i fedru bod yn ddiogel yng nghwmni’r mynydd, y peth gorau i’w wneud ydy bod â syniad da o beth i’w ddisgwyl, a pharatoi rhag i bethau fod yn wahanol i’r disgwyl. Gall edrych ar ragolygon y tywydd ar y diwrnod, yn ogystal â’r dyddiau blaenorol, ac edrych ar adroddiad amodau dan draed helpu i wybod be i ddisgwyl. Ond dydy’r mynydd ddim yn edrych ar adroddiadau o’r fath, a gall ymddwyn yn ddigon annisgwyl ar adegau, felly mae angen hefyd mynd a’r offer mynydda gaeaf addas at beth all fynd o’i le, nid am beth sy’n debygol o ddigwydd yn unig.”
Bydd asesiadau’n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos gyda’r llwybrau a asesir yn amrywio. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei uwchlwytho cyn gynted â phosib ar dudalen bwrpasol ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.