Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol fore heddiw, pleidleisiodd yr aelodau yn unfrydol o blaid yr egwyddor i barhau â gwaith paratoadol pellach i’r angen i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol.

Daw’r penderfyniad yn sgil mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2022 er mwyn mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau. Trwy’r mesurau newydd rhoddir disgresiwn i Awdurdodau Cynllunio benderfynu a oes angen gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fewn eu hardal. Dan y cyfarwyddyd newydd, byddai’n ofynnol i sicrhau caniatâd cynllunio cyn y gellir newid defnydd tŷ preswyl yn dŷ gwyliau neu ail-gartref.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Swyddogion Cynllunio Awdurdod y Parc yn mynd ati i ymchwilio a llunio adroddiad manwl i sefydlu a yw ail-gartrefi a lletyai gwyliau tymor byr yn cael effaith niweidiol ar ddarpariaeth tai lleol i drigolion Eryri. Bydd y gwaith hefyd yn craffu ar pa mor effeithiol fyddai gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 o ran dod â stoc tai yn ôl o fewn cyrraedd trigolion lleol. Bydd Aelodau’r Awdurdod yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad mewn Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yn gynnar yn 2024, ac yn penderfynu a ddylid rhoi rhybudd swyddogol o’r bwriad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Eryri.

Meddai’r Cynghorydd Elwyn Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae cymunedau byw a’r iaith Gymraeg yn rhai o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Yr unig ffordd i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw trwy sicrhau bod cyflenwad tai digonol ar gyfer pobl sydd am ymgartrefu yn eu cymuned leol, a chynnal y ffordd o fyw honno sydd mor arbennig.

Os bydd gwaith ymchwil yn dangos bod ail gartrefi a lletyai gwyliau tymor byr yn amharu ar y ddarpariaeth dai yn lleol, yna bydd y mesurau newydd yma yn arf pwysig er mwyn ceisio gwarchod stoc tai lleol a dod â nhw’n agosach at gyrraedd trigolion ein cymunedau.

Os bydd yr Aelodau yn penderfynu o blaid gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol yn cychwyn yn ystod gwanwyn 2024.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Dan y mesurau newydd, cyflwynwyd tri math newydd o ddefnydd tŷ, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau. Byddai newid defnydd rhwng y dosbarthiadau yma yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
  2. Dan y mesurau newydd, rhaid i Awdurdod Cynllunio roi rhybudd o 12 mis cyn dechrau gweithredu’r Cyfarwyddyd.
  3. Eryri yw’r ail Awdurdod Cynllunio yng Nghymru i gymryd camau i weithredu ar y mesurau newydd, gan ddilyn Cyngor Gwynedd sydd bellach wedi cwblhau’r cyfnod ymgynghori.
  4. Bydd Swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gael i’w cyfweld yn ystod y gwanwyn, pan fydd mwy o wybodaeth ar gael a phenderfyniad wedi ei wneud.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274