Ymunwch â ni i ddathlu degawd ers dynodiad Gwarchodfa Awyr Dywyl i Eryri gyda noson hudolus o adrodd straeon yn Farchynys!
Bydd y storïwr Fiona Collins yn rhannu hanesion cyfareddol am awyr y nos a’r ystlumod sy’n dibynnu ar dywyllwch i ffynnu. Yn ymuno â hi bydd Elliot Bastos o’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod a Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys taith gerdded hamddenol a hygyrch, llai na milltir o hyd. Mae’r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn a phramiau.
Gwybodaeth bwysig
Mae’r digwyddiad am ddim ac yn addas i blant 5 - 12 oed.
Dyddiad: 22/02/2025
Amser cyfarfod: 16:00yh
Man cyfarfod: Maes Parcio Farchynys, eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Digwyddiad mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.
Adleisiau’r Nos: Chwedlau Ystlumod ac Awyr y Nos
Ymunwch â ni i ddathlu degawd ers dynodiad Gwarchodfa Awyr Dywyl i Eryri gyda noson hudolus o adrodd straeon yn Farchynys!