Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ydych chi eisiau ennill £1,500 i helpu i wneud Eryri yn ddi-blastig?

Ydych chi eisiau mynychu’r uwchgynhadledd amgylcheddol 1af ar Yr Wyddfa?

Beth yw eich Syniad Mawr buddugol chi?

Lle
Yr Wyddfa

Pryd
24 Medi, 2024

Mae gennych chi gyfle unigryw i lunio dyfodol Yr Wyddfa, sut fyddwch chi'n bachu arno?

Mae 5% o gopa'r Wyddfa yn ficroblastigau ac mae criw o wirfoddolwyr wedi casglu dros hanner pwysau car o sbwriel oddi ar y llethrau mewn cyn lleied â  chwe mis. Dyna pam y dechreuodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri brosiect Yr Wyddfa Ddi-blastig - i roi diwedd ar y llygredd plastig hwn.

Rwan, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn eich gwahodd chi i'n helpu ni i frwydro yn erbyn y broblem.

Ym mis Medi 2024, gallech chi gael eich galw – ynghyd â disgyblion eraill o bob rhan o Ogledd Cymru – i gyflwyno eich Syniad Mawr i leihau llygredd untro yn COPA1: yr uwchgynhadledd amgylcheddol gyntaf ar Yr Wyddfa.

Os bydd eich Syniad Mawr chi yn un gwerth chweil, byddwch yn cael eich gwahodd  i ymuno â ni ar Yr Wyddfa, i'w gyflwyno i arbenigwyr yn eu maes. Bydd yr arbenigwyr yn dweud wrthych sut i wireddu eich syniadau mewn sesiynau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r syniadau. Bydd grŵp buddugol o bob sesiwn yn cael ei ddewis.

Bydd y grwpiau buddugol yn derbyn £1,500 i wireddu eu syniadau a byddant yn cael eu cefnogi gyda mentoriaeth gan yr arbenigwyr y buont yn gweithio â nhw i gyflawni eu prosiectau.

Ymgeisiwch i fynychu yma

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch copa@eryri.llyw.cymru

 

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.

Copa 1

Mae gennych chi gyfle unigryw i lunio dyfodol Yr Wyddfa, sut fyddwch chi’n bachu arno?

Category: