Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Er bod swyddi mawr yn aml yn gofyn am weithiwr plastro treftadaeth proffesiynol, mae perchennog adeilad yn aml yn gwneud atgyweiriadau clytiol a phatshio. Ar y cwrs 1 diwrnod hwn, sy'n gwrs ymarferol yn bennaf, bydd cyfranogwyr yn dysgu hanfodion profi morter presennol, dewis agregau a chalch priodol, cymysgu a phlastro a sut i fynd ati i wneud gwaith pwyntio.

Amlinelliad o'r cwrs:

  • Mathau o galch a'u defnydd a'r gwahanol ffyrdd o'u defnyddio
  • Cylchred calch, ymdoddi ac agweddau technegol
  • Enghreifftiau a pham rydyn ni'n defnyddio calch
  • Iechyd a diogelwch
  • Yr offer ar gyfer y math hwn o ddiwydiant a chynghorion ymarferol
  • Paratoi'r cefndir / cefnlen
  • Sut a phryd i roi un côt ar ôl y llall wrth blastro
  • Technegau gorffen
  • Clytio/gwaith patshio a thrwsio craciau
  • Pwyntio
  • Caledu ac ôl-ofal
  • Trafodaeth / Sesiwn Holi ac Ateb

Cynhelir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg.

Dyddiad: 13 Medi 2024

Amser: 9:30yb- 4:30yh

Llefydd ar gael: 8

Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW

Archebu: I archebu lle ar y cwrs anfonwch ebost at:  naomi.jones@eryri.llyw.cymru

Cynhelir yr hyfforddiant drwy gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Darperir Offer Diogelwch Personol, cyfarpar a deunyddiau. Dylai'r rhai sy'n mynychu wisgo dillad ac esgidiau addas.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion tai a gweithwyr DIY sydd am ddechrau plastro a phwyntio gyda calch.

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.

Cyflwyniad i Bwyntio a Phlastro gyda Chalch

Free

Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant  i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol

Category: