Er bod swyddi mawr yn aml yn gofyn am weithiwr plastro treftadaeth proffesiynol, mae perchennog adeilad yn aml yn gwneud atgyweiriadau clytiol a phatshio. Ar y cwrs 1 diwrnod hwn, sy'n gwrs ymarferol yn bennaf, bydd cyfranogwyr yn dysgu hanfodion profi morter presennol, dewis agregau a chalch priodol, cymysgu a phlastro a sut i fynd ati i wneud gwaith pwyntio.
Amlinelliad o'r cwrs:
- Mathau o galch a'u defnydd a'r gwahanol ffyrdd o'u defnyddio
- Cylchred calch, ymdoddi ac agweddau technegol
- Enghreifftiau a pham rydyn ni'n defnyddio calch
- Iechyd a diogelwch
- Yr offer ar gyfer y math hwn o ddiwydiant a chynghorion ymarferol
- Paratoi'r cefndir / cefnlen
- Sut a phryd i roi un côt ar ôl y llall wrth blastro
- Technegau gorffen
- Clytio/gwaith patshio a thrwsio craciau
- Pwyntio
- Caledu ac ôl-ofal
- Trafodaeth / Sesiwn Holi ac Ateb
Cynhelir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg.
Dyddiad: 13 Medi 2024
Amser: 9:30yb- 4:30yh
Llefydd ar gael: 8
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW
Archebu: I archebu lle ar y cwrs anfonwch ebost at: naomi.jones@eryri.llyw.cymru
Cynhelir yr hyfforddiant drwy gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Darperir Offer Diogelwch Personol, cyfarpar a deunyddiau. Dylai'r rhai sy'n mynychu wisgo dillad ac esgidiau addas.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion tai a gweithwyr DIY sydd am ddechrau plastro a phwyntio gyda calch.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.
Cyflwyniad i Bwyntio a Phlastro gyda Chalch
Free
Ymunwch â ni ar gyfer hyfforddiant i gynnal ac atgyweirio adeiladau traddodiadol