Dewch draw i’r Ysgwrn i fwynhau gwledd o weithgareddau Hwyl Hen Ffasiwn! Bydd sesiynau chwarae gemau traddodiadol ar gael drwy’r dydd, gweithdai creu crefftau traddodiadol ac arddangosfa diwrnod golchi yn cael eu perfformio gydol y dydd. Bydd y teithiau tywys arferol ar gael yn y ffermdy i’r rhai sy’n dymuno ymweld â chartref Hedd Wyn.
Nid oes angen rhagarchebu lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn. Fodd bynnag, os hoffech chi ymweld â ffermdy'r Ysgwrn yn ystod y digwyddiad, bydd gofyn i chi ragarchebu taith o'r ffermdy ymlaen llaw.
Rhagarchebu taith o ffermdy'r Ysgwrn
Pryd
Ebrill 12, 2023
11pm–3:30pm
Lleoliad
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Arweinyr y Sesiynau
Staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Rhian Cadwaladr
Pris
£2 y pen ar gyfer y gweithgaredd crefft. Cynhelir y gweithgareddau eraill am ddim.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.