O ffermdy anghysbell Carneddi, drwy Gwm Bychan ac at lannau Llyn Dinas - dyma daith gerdded gyda sgyrsiau, cerddi a chaneuon fydd yn rhoi albym cysyniadol 'Carneddi' gan Iestyn Tyne yn ei chyd-destun daearyddol, bedwar ugain o flynyddoedd ers cyhoeddi ffotograff enwog Geoff Charles ar glawr blaen Y Cymro.
Arweinir y daith gan Iestyn Tyne, Ned Feesey a Bethan Wynne Jones.
Bydd angen i bawb ddod ag esgidiau cerdded cryf, pecyn bwyd, dwr a dillad addas, gan gynnwys dillad glaw.
Lle a phryd
Lleoliad: Ffermdy Carneddi, Cwm Bychan a Llyn Dinas
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Medi
Amser: 9:30yb- 2:30yp
Man cyfarfod: Llyn Dinas
Archebu lle
Sesiwn
Medi 18, 2025 (09:00 - 14:30)
Nifer o fynychwyr
Taith Gerdded ‘Carneddi’
Free
Arweinir y daith gan Iestyn Tyne, Ned Feesey a Bethan Wynne Jones.