Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ymunwch â Davy Greenough, arweinydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys, ar deithiau cerdded meddylgarwch o amgylch rhai o leoliadau harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymgollwch yn yr amgylchedd naturiol wrth i chi ddilyn teithiau cerdded cymedrol yn Eryri gyda ysbeidiau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr ar hyd y daith.

Arweinydd y sesiwn
Davy Greenough

Manylion y daith

  • Lleoliad: Llwybr Cynwch, Llanfachreth
  • Dyddiad: Dydd Sadwrn, 2il o Dachwedd
  • Hyd y daith: 3 milltir
  • Gradd: Cymedrol
  • Lleoedd: 12
  • Amser: Cychwyn am 9:30yb a gorffen cerdded am oddeutu 12:30yh
  • Cost: £5 y person

Cyfarfod: Maes parcio Saith Groesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Mae hefyd doiledau cyhoeddus yn y maes parcio hwn. Gwiriwch i weld pryd y maent ar agor.

Toiledau cyhoeddus a Chyfleusterau

Dysgu rhagor am raddfeydd cerdded

Trefnwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Mi fydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Lles yn anfon fwy o wybodaeth ynglŷn â'r daith atoch yn agosach at yr amser.

Bydd y sesiynau yn cael eu harwain drwy gyfrwng y Saesneg a bydd swyddog iaith Gymraeg o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bresennol.

Canslo ac ymholiadau
Os hoffech chi ganslo eich lle ar y daith neu wneud ymholiad ynglŷn â'r digwyddiad, cysytllwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yr Awdurdod.

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
etta.trumper@eryri.llyw.cymru

Archebu lle
Sesiwn
Tachwedd 2, 2024 (09:00 - 12:00)
Nifer o fynychwyr

Taith Gerdded Meddylgarwch: Llwybr Cynwch

From: £5.00

Ymgollwch yn natur Eryri ar deithiau cerdded meddylgarwch.

Category: