Ymunwch â Simon, Uwch Warden y Gogledd ar gyfer Taith y Warden mis Mehefin!
Mae’r gylchdaith hon sydd yn cychwyn ym mhentref Croesor, yn swatio wrth odre Cnicht yn nhirwedd trawiadol Eryri.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Manylion y daith
Dyddiad: Dydd Gwener, Mehefin 27
Amser cyfarfod: 10:00yb
Hyd: Tua 3 awr
Pellter: 5.5km
Man cyfarfod: Maes parcio ym mhentref Croesor
Arweinydd y daith
Simon Roberts, Uwch Warden y Gogledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Taith y Warden: Cylchdaith Croesor
Ymunwch â Simon, Uwch Warden y Gogledd, ar gyfer Taith y Warden mis Mehefin!